Yn yr Un Cwch
|
Clywais ein bod ni oll yn yr un cwch,
yr un storm o dan yr un straen yn ymddwyn yn gall, heb adael ein cartrefi clyd. Gwelais rai yn hwylio’n hapus, yn gysurus heb bryder ac heb straen , yn ymlacio yn y parti … Sipian eu G&Ts. Arwyr y GIG fel siaced achub yna o hyd i’m dal pan fydd y cwch yn dryllio. Ym mharti dolig dwl Boris meddwi nath y Torîs, gan wadu eu bod wedi torri’r rheolau. Rhoddaist rwymedigaethau rheolau o’th orsedd ragrithiol, a swatio’n gynnes er gwaethaf ein rhwystredigaeth a’n hamynedd ni na feiddiodd dorri’r rheolau fel y gwnaethoch chi. Ymlusgo’n ddiogel o ddydd i ddydd heb weld ’run cyfaill, ffrind na … wel neb! Ail-fyw yr un diwrnod dro ar ôl tro, fis ar ôl mis, yn ysu i ddianc rhag yr hunllef hyll. Clywais ein bod ni oll yn yr un cwch, yr un storm o dan yr un straen yn ymddwyn yn gall, heb adael ein cartrefi clud. A gwelais nad oes rhaid teithio’n bell, i werthfawrogi fy myd a’i ddeall yn well. |