Mynydd Epynt
|
A glywoch chi’r hanes am gymuned a gollodd ei thir?
Nid Tryweryn na’r Preseli ond yr Epynt a’i brwydr hir. Dewch i glywed am yr hanes gan rai sy’n gwybod y gwir, Cenedlaethau o straeon sydd wedi eu pasio i lawr mor glir. 80 mlynedd ers i deuluoedd golli eu cartrefi, Berth-ddu, Gwybedog a Waun Fawr oedd rhai o’r rheini. Nid cartref ond adeilad yw’r ffermydd erbyn heddi, Saethu o’r gegin i’r parlwr ac i fyny i’r ystafell wely. “55 days notice, clear out” dywedodd y swyddog wrth y trigolion. Gorfod chwilio am gartref newydd, a hynny’n go brydlon. Casglu eu pethau a dweud ffarwél wrth yr atgofion, A fydd bellach yn drysorau yn ddwfn yn eu calon. Roedd y Gymraeg yn fyw ar hyd y mynyddoedd, Clywid plant yn chwarae i lawr y dyffrynnoedd. Ond bellach yr iaith fain a glywir rhwng y byddinoedd, Milwyr fel bleiddiaid yn barod am y rhyfeloedd. Lle bu gynt sŵn plant yn Ysgol Cilienni, Ac emynau di-ri i’w clywed yn Y Babell, bryd hynny. Sŵn gynnau a bomiau yn ffrwydro rhwng y meini, A’r pridd fel glaw yn cwympo ar y clwydi. Cymuned ar wasgar sydd heddiw yn cofio, Am y gwaith amaethu a’r hwyl drwy fugeilio. Bydd yr hanes o hyd yn cael ei hyrwyddo, ‘Cofiwch Epynt’ yw’r geiriau sy’n gwawrio. |