Sgwrs ag Iestyn Tyne, aelod o fand Patrobas a myfyriwr yn yr Adran
|
Yn ddiweddar cefais y pleser o gael sgwrs â'r bardd a'r cerddor, Iestyn Tyne, er mwyn ei holi ynglŷn â Phatrobas, y band gwerin y mae’n aelod ohono. Ynghlwm ag astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Iestyn wedi ennill nifer o goronau a chadeiriau mewn eisteddfodau ar hyd a lled Cymru, a thu hwnt, gyda’r anrhydedd mwyaf o bosib yn cyrraedd yn 2016 pan enillodd Iestyn Goron Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint a’r cylch. Mae Patrobas yn fand sy'n cynnwys Iestyn, Wil Chidley, Gruffydd Davies a Carwyn Williams, sydd i gyd yn frodorion o Benrhyn Llŷn, ac wedi rhyddhau albwm y llynedd, sef ‘Lle awn ni nesa?’, sef ail brosiect y band yn dilyn yr EP llwyddiannus ‘Dwyn y Dail’.
Beth yw'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol gyda’r band? Mae hi’n gyfnod tawel ar gyfer y band ar hyn o bryd - mi ddaru ni recordio a rhyddhau albwm y llynedd felly mi gawsom ni rai misoedd prysur dros ben. Ar hyn o bryd rydan ni’n bwcio gigs ar gyfer haf 2018, ac mi gawn ni weld sut aiff hynny. Mi fyddai’n braf recordio eto eleni, ond tydan ni ddim am roi pwysau gormodol ar ein hunain i wneud hynny chwaith - mae cymryd amser i gamu yn ôl yn talu ar ei ganfed fel arfer. Da ni i gyd hefyd wrthi ar ein prosiectau ein hunain - mae gen i fandiau eraill dwi’n rhan ohonyn nhw, ac mae Carwyn yn gweithio’n llawrydd yn cynnig gwasanaethau goleuo a sain, yn ogystal â’r ffaith fod tri ohonom ni’n dal i fod yn y brifysgol; felly ar y funud mae’n gyfnod o feddwl am le i fynd nesa. Beth wnaethoch chi er mwyn cymryd rhan mewn cerddoriaeth yn y lle cyntaf? Yn bersonol, cymryd gwersi ffidil gan athrawes leol pan o’n i’n saith oed, a chario ymlaen efo’r rheiny drwy fy nghyfnod mewn addysg gynradd ac uwchradd. Mi wnes i ymuno a’r Glerorfa (Cerddorfa Werin Cymru) pan o’n i’n dair ar ddeg, a dyna oedd fy nghyflwyniad i gyd chwarae a chyd greu cerddoriaeth efo pobl eraill. Mi wnes i ymuno efo Wil a Ronw (sef drymiwr cyntaf Patrobas) tua diwedd fy nghyfnod yn Ysgol Botwnnog, ac o hynny y daeth Patrobas. Roedd cerddoriaeth yn rhan o fywyd y cartref i mi o oedran cynnar iawn, felly mae’n braf gallu dweud ‘mod i wedi glynu ato fo! Pa gerddoriaeth newydd ydych yn ei hoffi? Mae ‘na lot o gerddoriaeth newydd a chyffrous ar y Sîn Roc Gymraeg ar hyn o bryd - mae’r Cledrau newydd ryddhau chwip o albwm, ac roedd 2017 yn flwyddyn lewyrchus o ran bandiau ifanc, newydd yn torri drwodd - dwi wedi mwynhau gwaith Ffracas ac Adwaith yn arbennig. Yn y sîn werin, mae Vrï yn dod a cherddoriaeth werin Gymraeg a ‘chamber folk’ Sgandinafaidd ei naws ynghyd, gan greu canlyniadau hudolus. Hoff albymau 2017 wedyn - Dal i ‘Redig Dipyn Bach gan Bob Delyn a’r Ebillion, Bwncath gan Bwncath a The Loved Ones gan Flyte. Pwy yw dy eiconau / dylanwadau cerddorol? Yn ddiweddar, wrth fynd ati i gyfansoddi stwff newydd (sydd ddim yn mynd i weld golau dydd am sbel eto, yn fwy na thebyg), dwi wedi tynnu ar waith y Travelling Wilburys ac ar waith aelodau unigol y ‘supergroup’ hwnnw; Tom Petty, George Harrison, Bob Dylan, Jeff Lynne a Roy Orbison. Mae dylanwad Cowbois Rhos Botwnnog ac Edward Sharpe and the Magnetic Zeros ar y darnau dwi wedi eu cyfansoddi ar gyfer albwm Patrobas, i enwi rhai yn unig. Mae grwpiau offerynnol fel Calan yn sicr yn ysbrydoliaeth o ran fy ngherddoriaeth ffidil. Beth ydych chi'n hoffi ei wneud y tu allan i gerddoriaeth sy'n cyfrannu at eich gallu cerddorol? Mae’n bwysig byw a cheisio cymryd pob cyfle sy’n dod i ran rhywun. Pan dwi’n cael cynnig cymryd rhan mewn rhyw brosiect neu’i gilydd, mae hi wastad yn beth poenus gorfod dweud na gan nad ydw i’n gwybod a ddaw'r cyfle hwnnw eto fyth. Tydi’r pethau yma ddim o reidrwydd yn cyfrannu at allu cerddorol, fel mae’r cwestiwn yn ei awgrymu, ond maen nhw’n sicr yn cyfrannu at allu rhywun i greu ac i ddefnyddio’i ddychymyg mewn ffordd greadigol. Yn ddiweddar, mi ges i fod yn rhan o griw o Gymry a aeth draw i wneud cyfres o gigs yng Ngwlad y Basg. Roedd treulio deg diwrnod ymysg pobl Gwlad y Basg yn brofiad bythgofiadwy. Nid yn unig hynny, ond fe arweiniodd hynny ymlaen at brosiectau eraill - fel y daith gyda chriw o Wlad y Basg ym mis Ionawr eleni. Mae 'na rywbeth i’w gael o bob profiad ac o bob digwyddiad a theimlad bach, felly dwi’n gofnodwr mawr - mae gen i lyfrau’n llawn o luniau bach a cherddi a sylwadau ar bethau digon dibwys. Y pethau hynny sy’n sail i’r pethau mwy yn amlach na pheidio. Beth yw enw eich band, a beth yw ei ystyr? Patrobas ydi’r prif fand yr ydw i’n rhan ohono. Enw Lladin ydi o yn wreiddiol - enw sy’n ymddangos yn y Beibl. Mae’n debyg i Robert Griffith, bardd gwlad o Ben Llyn yn yr 1860au gymryd yr enw hwnnw yn enw barddol. Roedd ei enw o ar y wal yn Neuadd Rhoshirwaun lle roedd y band yn ymarfer rai blynyddoedd yn ôl. Sut gallech chi bortreadu'ch steil? Gwerin Cyfoes ydi’r ‘label’ da ni’n tueddu i’w ddefnyddio erbyn hyn. Y gwir amdani ydi bod yr hyn sy’n dylanwadu ar yr aelodau gwahanol yn gasgliad mor eang o stwff nes ei bod hi’n amhosib rhoi label mwy pendant na hynny. Nid gwerin roc ydi o bellach, am fod yna ddylanwadau cerddoriaeth bop, jazz a chlasurol i’w clywed o fewn ein caneuon hefyd. Sut byddech chi'n delio â cheisiadau am ganeuon? Y gynulleidfa sy’n gwybod orau - bob tro! Pa nifer o briodasau y gwnewch chi fel arfer mewn blwyddyn? Rhyw hanner dwsin y flwyddyn, mi fuaswn i’n dyfalu; rydan ni’n trio cyfyngu ar y nifer o briodasau yr ydan ni’n perfformio ynddyn nhw mewn blwyddyn, ond maen nhw’n lot fawr o hwyl hefyd! Oherwydd ein bod ni’n canu am gyfnod cymaint hirach nac mewn gig arferol, maen nhw’n gyfle da i ymarfer caneuon newydd, ac i fwynhau canu hen rai nad ydynt yn gweld golau dydd fel arfer. Wyt tisho trafaelio dramor efo dy gerddoriaeth? Dwi eisoes wedi perfformio yn Iwerddon ac yng Ngwlad y Basg yn unigol a hefo band Gwilym Bowen Rhys, ond yn sicr mi fyddai cael mynd ar daith dramor efo Patrobas yn wych hefyd. |