Sgwrs â'r cyflwynydd radio Geraint Lloyd
|
Ganwyd Geraint Lloyd ym mhentref Lledrod ger Aberystwyth. Mynychodd Ysgol Lledrod ac yna symud i Ysgol Uwchradd Tregaron. Mae’n briod ag Anna ac mae ganddynt ddau blentyn, Carys a Tomos. Ymunodd â Radio Cymru ym mis Ebrill 1997. Mae ei raglenni ar Radio Cymru wedi denu amrywiaeth o wrandawyr megis Clwb Bois y Loris. Ar hyn o bryd mae Geraint yn Llywydd Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru ac yn gefnogol iawn i bob un o’i ddigwyddiadau. Yn y gymuned yn Lledrod mae Geraint bob amser yn barod i helpu mewn unrhyw ddigwyddiad yn enwedig gyda’r Clwb Ffermwyr Ifanc y mae Tomos yn ei fynychu. Yn ei amser rhydd mae modd gweld Geraint yn y pentref yn torri ei borfa neu'n paratoi at rasio efo Tomos.
Disgrifiwch eich hun mewn tri gair. Hapus, gweithgar, gwyllt ar adegau! Sut gwnaethoch chi gyrraedd eich gyrfa â’r BBC? Dechreues i wirfoddoli gyda Radio Ceredigion yn 1992 yna yn 1997 cynigiodd Radio Cymru swydd a rhaglen ddyddiol i fi. Beth yw elfen orau eich swydd? Sgwrsio gyda phobl a dysgu rhywbeth newydd drwy wneud hynny. Pwy sydd wedi dylanwadu arnoch yn eich bywyd? Yn y byd darlledu rhywun fel Hywel Gwynfryn a Dai Jones. Yn fy mywyd bob dydd: mam. A oeddech wedi bwriadu ysgrifennu hunangofiant ers amser? A sut aethoch ati i’w ysgrifennu? Na, doeddwn i ddim wedi meddwl amdano fe o gwbl, ond ces i alwad gan y Lolfa yn gofyn a fyddai diddordeb gyda fi, yna mynd ati a recordio'r hanes ar dâp, a gadael i rywun arall wneud yr ysgrifennu. Sut deimlad oedd hi i gael eich dewis yn llywydd Ffermwyr Ifanc Cymru a pham yn eich barn chi mae’n fudiad pwysig? Mae’n anrhydedd cael bod yn Llywydd. Mae’r mudiad wedi bod yn rhan o fy mywyd erioed. Byddai cefn gwlad yn dipyn tlotach heb Glwb Ffermwyr Ifanc, heb sôn am y cyfleoedd eang mae’n eu rhoi i bobl ifanc. Beth ydy eich diddordebau yn eich amser rhydd? Ceir a rasio! Tomos yn rasio bellach sydd yn mynd â fi ’nôl i pan oeddwn i’n rasio, ond fi yw’r mecanic bellach! Beth fyddai eich cyngor chi i ni fel myfyrwyr brwd Cymru? Cymerwch bob cyfle rydych chi’n ei gael. Does dim byd yn amhosib! A oes ’na nod arall i’w gyflawni yn y dyfodol? Na, fi’n ddigon hapus fel mae pethau ar hyn o bryd. |