Natur
|
Wrth gerdded heibio drysau’r siopau ac wrth frasgamu drwy’r strydoedd cefn am y llyfrgell, clywaf gwynfan y dail crin wrth fy nhraed. Mae’r deiliach disgynedig yno’n wastadol fel tomen flêr o frown a gwyrdd. Twmpath sydd wedi ei ysgubo o’r neilltu, o ffordd myfyrwyr, ysgolheigion a thwristiaid, fel nad ydynt yn amharu dim arnom. Sylwaf ar bobl sy’n pasio gan frysio heibio’r dail. Maent yn llwyr ymwybodol o’u presenoldeb ac yn gwybod eu bod yn crino wrth eu traed. Maent yn crino, ac yn crio. Er, fiw i’r bobl sbïo. Symudant yn eu blaenau ac enciliant yn eu hystafelloedd a’u swyddfeydd crand sy’n eu gwarchod rhag y fath bethau. Chwiliaf innau am loches yn y llyfrgell; ac anghofiaf am y dail, am awr neu ddwy, cyn colli stêm a synfyfyrio. Edrychaf o’m cwmpas – uwch fy mhen a phob ochr imi mae caregwaith cain yn crisialu cyfoeth mawrion ac arloeswyr academia; ac yma yr ydwyf innau, yn ymhyfrydu, er yn ymdroi, ar y patrymau ar y pared, yn astudio’r darluniau coeth yn hytrach nag athroniaeth Jean-Jacques Rousseau. Ond, yn y patrwm ar y pileri gwelaf ddail, a chofiaf eto eu bod hwythau y tu allan yn parhau i grino. Gadawaf y llyfrgell a throediaf y llwybr arferol ac, yn wir, y maent yn dal yno. Mae’n wirioneddol anodd sbïo ac estyn llaw at y bobl sy’n crino wrth fy nhraed; felly brysiaf oddi yno gan gogio nad ydw i wedi clywed eu crio. Dyna natur pobl fel ni.
|