Rhwystrau
|
Mae sgrech y larwm, fel bom yn ffrwydro,
Yn deffro’r teimladau sy’n gorwynt yn fy mhen. Edrychaf drwy’r ffenest ar fyd dieithr, Na wn i ddim amdano. Byd heddychlon, llonydd a distaw, Byd normal sy’n wrthun i mi. O! am gael rhyddhad O garchar fy mhen. Ar draws pob llwybr Mae rhwystrau i’w hwynebu. Mentraf allan a’m mhen i lawr, Ceisio osgoi’r llygaid beirniadol. Dal i fynd, anwybyddu’r byd, Brwydro’n benderfynol Drwy’r coridorau cul. Eisteddaf yn fud yn y gornel bellaf Cocsio gweithio a chanolbwyntio Ar fy nodiadau o farciau du. A phan fo rhaid – Gwên fach i guddio’r boen A’r wyneb yn dweud celwyddau. Adref yn hafan fy llofft Mae’r lleisiau’n uwch yn fy mhen. Lleisiau sy’n fy herio, A phigo fy nghydwybod. Lleisiau heb reswm nac ystyr, Yn fy meio i o hyd. Lleisiau sy’n mynnu atebion! Ac ar sgrin fach mae cyfeillion Sy’n byw yr un pryderon. Ffrindiau, sy’n fy adnabod ac yn fy neall i’n iawn. Dim ond nhw sy’n poeni amdanaf. Dim ond nhw all ateb fy nghri Drwy gynnig un ateb hawdd. |