Sgwrs â'r bardd, y cerddor a'r ieithydd Siôn Pennar
|
Bardd, cerddor ac ieithydd yw Siôn Pennar. Daw Siôn o Borthmadog, ond bellach mae’n byw yng Nghaerdydd, ac yn gweithio fel newyddiadurwr i’r BBC. Daeth ei ddawn fel saer geiriau i’r amlwg wedi iddo gymryd rhan yn yr Her 100 Cerdd yn 2013, a daeth yn drydydd am y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Abertawe yn 2011.
I ba brifysgol yr est ti, a pha bwnc wnest ti ei astudio? Ar ôl gadael Coleg Meirion Dwyfor, Pwllheli, es i i’r brifysgol yng Nghaeredin. Yn wreiddiol, roeddwn wedi ymgeisio am gyrsiau mewn Ffrangeg a Hanes, ond yn ystod y flwyddyn o fynd am gyfweliadau mewn amryw brifysgolion, mi newidiais fy newis – am reswm nad ydw i’n rhy siŵramdano bellach – i Ffrangeg ac Athroniaeth. Yn yr Alban ar y pryd, roedd rhaid dewis tri phwnc yn y flwyddyn gyntaf, felly fe ychwanegais i gwrs mewn Sbaeneg at y Ffrangeg a’r Athroniaeth. Yn y diwedd, fe wnes i ollwng Sbaeneg ac Athroniaeth – achos fy mod i, mewn gwirionedd, yn anobeithiol yn y pwnc – a gorffennais fy nghyfnod yno efo gradd mewn Ffrangeg. Yn ddiweddarach, es i ymlaen i wneud gradd Meistr yn yr un maes, a hynny yn Rhydychen. Pam dewis Ffrangeg? Roedd Ffrangeg o ddiddordeb i mi ers fy nghyfnod yn Ysgol Eifionydd, a dim ond cynyddu wnaeth fy niddordeb ym Meirion Dwyfor o dan arweinyddiaeth ‘Glyn French’. Roedd o’n sicr yn ysbrydoliaeth yn hynny o beth. Ond y peth pennaf oedd fy mod i eisiau astudio llên a hefyd eisiau mynd i fyw dramor. Felly roedd astudio Ffrangeg – pwnc roeddwn i hefyd yn gwneud yn dda ynddo – yn gam naturiol. A wedyn yn hwyrach, yng Nghaeredin, mi ddechreuais arbenigo mewn maes penodol o hanes a llên Ffrangeg-ei-iaith – llên o Algeria, yn benodol – ac mi wnaeth hynny ddod â llawer o’m diddordebau at ei gilydd. Yn benodol, yn y maes hwnnw fe allwn i weld tebygrwydd â llên Cymru a sefyllfa wleidyddol a diwylliannol Cymru, ac mi oedd hynny’n apelio at fy hoffter o gysylltu’r hyn sy’n digwydd yn ein cornel fechan ninnau o’r ynys yma efo gweddill y byd. Beth ydy’r prif atgofion sy’n aros yn y cof yn dilyn y flwyddyn wnest ti ei threulio yn Ffrainc? Mi roedd cael y cyfle i fynd dramor yn rhan bwysig o fy nghymhelliad i astudio Ffrangeg, a blwyddyn yn ninas Toulouse ges i i brofi’r wefr honno. Dwi’n meddwl mai’r cyfeillgarwch sy’n aros yn y cof yn bennaf. Roedd yna griw o dros ugain ohonom ni – o ddwsin neu fwy o wledydd gwahanol – yn cydfwyta bob nos yn y gegin gyffredin yn neuadd breswyl Chapou. Roedd yna lot o waith yn mynd tuag at drefnu’r prydau – tripiau wythnosol i Lidl, casglu pres a llestri – ond mi wnaeth o ddyfnhau ein cyfeillgarwch. Beth wnest ti ar ôl graddio? Es i i Lublin, yng Ngwlad Pwyl i ddysgu Cymraeg ym Mhrifysgol Gatholig Lublin. Roedd ffrindiau i mi yn byw yn Poznan, a thrwy statws Facebook gan un ohonyn nhw y gwnes i ddysgu am y swydd. Profiad boncyrs oedd mynd i wlad lle doeddwn i ddim yn adnabod yr iaith, a phan doedd gen i ddim ond cwta fis o brofiad dysgu (o gwrs byr wnes i cyn mynd). Ond profiad gwych – fe newidiodd o fi fel person. Ar wahân i’r Gymraeg, y Saesneg a’r Ffrangeg, wyt ti wedi meistroli unrhyw iaith arall? Dwi’n medru siarad Pwyleg yn eitha’ da – i lefel sgyrsiol – a rhywbeth tebyg mewn Catalaneg. Oherwydd tebygrwydd Sbaeneg ac Eidaleg i Gatalaneg a Ffrangeg, dwi hefyd yn gallu deall talpiau o’r ieithoedd hynny, a siarad rhyw dipyn. Dwi wedi arbrofi efo ieithoedd eraill hefyd, fel Arabeg, ond heb fawr o lwyddiant … eto. Fel un sydd â diddordeb mewn iaith, oes gen ti ddiddordeb mewn ysgrifennu creadigol? Mae gen i hefyd ddiddordeb mawr mewn ysgrifennu creadigol. Dwi wedi cyhoeddi ambell ddarn yma ac acw – cerddi a rhyddiaith – ac fe hoffwn i ysgrifennu mwy, ond dydw i ddim yn berson disgybledig iawn, sy’n dipyn o broblem pan fo hi’n dod i ysgrifennu. Un o’r pethau gorau dwi erioed wedi ei wneud ydy’r Her 100 Cerdd, nôl yn 2013, lle bu rhaid i bedwar ohonom ni ysgrifennu cant o gerddi mewn 24 awr. Efallai fy mod i angen rhywbeth fel yna er mwyn ysgrifennu! Ydy ysgrifennu barddoniaeth gaeth yn apelio atat ti? Mae’n well gen i ganu rhydd na chanu caeth, yn bennaf gan nad ydw i yn gallu cynganeddu! Eto, does gen i ddim digon o ddisgyblaeth i ddysgu’r grefft, dwi’n amau. Ond mi fydda’ i’n trio efelychu sain y canu caeth yn fy nghanu rhydd, gan fod y gynghanedd yn gwneud rhywbeth rhyfeddol i’r glust. Ond does dim rhaid i ffurf y gynghanedd fod yn hollol gywir iddi gael yr effaith honno, yn fy nhyb i. Pa swydd rwyt ti’n ei gwneud ar hyn o bryd? Dwi’n gweithio fel newyddiadurwr darlledu gyda gwasanaethau Cymru Fyw a Newyddion 9 y BBC. Mae’n ddifyr – a dwi’n cael ysgrifennu llawer, ac mewn ffurfiau gwahanol. Does dim llawer o wahaniaeth, mewn gwirionedd, rhwng y straeon sydd rhwng cloriau a’r rhai sydd ar erthyglau’r wefan newyddion neu ar y teledu. Yr un cynhwysion sydd yna i stori dda: llinyn storïol cryf, cymeriadau lliwgar ac iaith (ysgrifenedig neu weledol) atyniadol. |