Rhai Anadlau
|
Ymateb i 'Dau fachgen 23 neu 24 oed' gan David Hockney
Gorweddwn gyda’n gilydd, croen ar groen, i deimlo rhai anadlau, i arafu. Mewnanadlu, dau gorff cysylltiedig. Anadlu allan, mewnanadlu, llygaid ar gau mewn gollyngiad gwynfydedig, mewn distawrwydd braf, ar wahân i anadlu allan, mewnanadlu. Mwy tyner na’r tonnau pell, teimlais i’n ddiolchgar. Pelydrau’r lleuad ar eich llinynnau a’ch cromliniau heirdd, yn cael eu hidlo drwy chwarel farugog. Gwyliaf di, a meddyliaf amdanat ti. Teimlaf, meddyliaf, a thynnu troellau yn fy nghwallt. Teimlaf, meddyliaf. Pam mae hyn yn teimlo mor gywir? Yr wyf i’n heddychlon. Teimlaf, meddyliaf. Yn fwy diogel na chartref, yn fwy brawychus nag unrhyw beth. Teimlaf yn hollol sigledig. Anadlu allan. Mewnanadlu, anadlu allan. |