Gofid
|
Cawsom Gofid… i’w gadw
Yn Gorona go gachlyd ein bod am orfod ildio byw. Cawsom wŷs o genhedlaeth I genhedlaeth, i beidio anadlu anadl neb ond ni ein hunain. A chawsom ynysu, er na ddymunem fod yn ynysig, oherwydd ein rhyddid oedd yng ngofal Bois y Bae a’u grym anniddig ar ein bywydau. Troesom ein tai yn sinemâu Zoom a nosweithiau cwis a phoptai bara banana lle nad oedd llawenydd. Troesom ein neiniau a’n teidiau Yn whizz kidz heb ofn i-Pad, i-Phone nac i-Watch; robotiaid o henwyr doeth ar dro’r trai. A throesom ‘aros gartre’ yn ‘normal newydd’ i ni. Ystyriwch, a oes dihareb a ddywed y gwirionedd hwn: Gwerth Gofid oedd gwerth oedi a’r hedd oedd ein dyfodol ni. |