Sgwrs â'r bardd a'r awdur Rhys Iorwerth
|
Yn wreiddiol o Gaernarfon, aeth Rhys Iorwerth i Ysgol Syr Hugh Owen cyn mynd i astudio MA mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Cipiodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011 gyda chanmoliaeth uchel. Wedi cyfnod yn byw yn y ddinas ac yn gweithio i’r gwasanaeth ymchwil yn y Senedd, mae bellach wedi dychwelyd i Gaernarfon, lle mae’n gweithio fel cyfieithydd llawrydd. Mae’n enw cyfarwydd i’r rheiny sy’n mwynhau gwrando ar ornestau Talwrn y Beirdd ac yntau’n aelod brwd o dîm Dros yr Aber.
Pryd dechreuodd eich diddordeb mewn barddoni? Fel lot o blant, roeddwn i’n gwirioni ar odli. Roedd yna ryw swyn i’r peth sydd wedi para hyd heddiw! Roeddwn i hefyd yn darllen yn ddi-ben-draw – llyfrau T. Llew Jones oedd y ffefrynnau mawr. Ddaru’r ddau beth efo’i gilydd olygu bod chwarae efo geiriau yn dod yn naturiol iawn, hyd yn oed yn ifanc. A chwarae efo geiriau ydi barddoni, yn y bôn – neu o leiaf eu trin a’u trafod! Pam dewis mynd ati i ysgrifennu ar ffurf cynghanedd? Yn wreiddiol, ’dwi’n meddwl mai’r apêl oedd yr her o drio meistroli crefft mor hen, crefft mor unigryw Gymreig. A hefyd (waeth cyfaddef), y mymryn lleia o genfigen! A finnau yn y coleg, mi o’n i’n gweld beirdd yr un oed â fi fel Eurig Salisbury ac Aneirin Karadog yn cyhoeddi pethau ar gynghanedd ac yn cystadlu ar y Talwrn ac ati. Mi oeddwn i’n licio barddoni ond erioed wedi ymroi i ddysgu’r gynghanedd yn iawn, er imi botsian yn yr ysgol. Mi benderfynais felly, yn yr ail flwyddyn yn y coleg, ei bod hi’n hen bryd imi geisio bwrw ati o ddifrif. Pwy oedd eich athro barddol, ac a oedd cynganeddu’n rhywbeth a ddaeth yn hawdd i chi? Mae’n rhaid enwi Dei Fôn, fy mhrifathro yn Ysgol Syr Hugh Owen, a fyddai’n rhoi gwersi cynganeddu i fi amser cinio. Ond fel ’dwi’n dweud uchod, wnes i ddim ymroi’n ddigonol – roedd pêl-droed a miwsig lot yn bwysicach ... Felly yn y brifysgol yng Nghaerdydd, mi ymunais â dosbarthiadau Rhys Dafis yng Ngwaelod-y-Garth, a oedd yn sbardun mawr. Cael gwahoddiad yn sgil hynny i fod yn rhan o dîm Aberhafren ar Talwrn y Beirdd. Ac wrth gwrs, roedd cael Gerallt Lloyd Owen yn barnu’ch gwaith yn brofiad brawychus, ond yn hwb aruthrol i rywun ifanc. Ar yr un pryd (canol y 2000au), roedd nosweithiau barddol hwyliog a stomps yn reit gyffredin, ac mi fyddwn i’n dechrau cael gwahoddiadau i gymryd rhan. Mae’r cynulleidfaoedd mewn nosweithiau o’r fath yn gallu bod yn ‘athrawon barddol’ amhrisiadwy hefyd – ac yn dal i fod hyd heddiw! Oedd cynganeddu’n hawdd? Wel, ’dwi’n licio’r fframwaith mae’r gynghanedd yn ei gynnig; mae’n rhoi siapiau parod ar gyfer cerddi. ’Dwi’n ffeindio bod hynny’n helpu. ’Dwi hefyd yn gwirioni ar y wefr o daro ar drawiad cyngan-eddol da. Achos gwefr, go iawn, ydi’r gair! Felly os nad yn hawdd, roeddwn i’n bendant yn mwynhau’r broses o ddysgu’r grefft. Eto i gyd, mae’n cymryd blynyddoedd o ymarfer ac ymlafnio cyn gallu cyrraedd stêj lle mae modd dweud beth bynnag rydach chi’i isio’i ddweud ar gynghanedd. ’Dwi wastad yn pwysleisio hynny wrth ddechreuwyr: does dim modd torri corneli. Yr unig ffordd o wella’ch crefft ydi torchi llewys ac ymarfer yn ddi-baid. Mi wnes i hynny yn sicr. Gofynnwch i rai o fy ffrindiau coleg – yn y dafarn, tra byddai pawb arall yn sgwrsio’n braf, mi fyddwn i yn fy myd bach fy hun yn cyfri sillafau. Yn dilyn cyhoeddi eich nofel Abermandraw yn 2017, a ydych yn rhagweld y byddwch yn ysgrifennu mwy o weithiau rhyddiaith yn y dyfodol? Wel fel mae’n digwydd rydw i wrthi’n sgwennu nofel ar hyn o bryd, fydd allan yn y dyfodol nid rhy bell, gobeithio. ’Dwi’m yn gweld y broses yn llawer gwahanol i farddoni, a bod yn onest. Dic Jones ddywedodd mai’r un ochr i’r ddwy geiniog ydi barddoniaeth a rhyddiaith, a ’dwi’n cytuno. Geiriau ydi deunydd crai y naill a’r llall, a’r un ydi’r grefft, sef eu trin. Mae ‘Y ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor’ ar y maes llafur TGAU Cymraeg; maes llafur sydd wedi cael ei feirniadu’n hallt yn ddiweddar oherwydd honiadau nad yw’n ddigon amrywiol, h.y. nid yw’n cynnwys digon o gerddi gan feirdd benywaidd, o gefndiroedd lleafrifol, neu o’r gymuned LHBT+. Beth yw eich barn chi ar y mater hwn? Mae’n dalcen caled cynrychioli popeth mewn un maes llafur. Mae yna wastad rywbeth na fydd yn cael ei adlewyrchu oherwydd bod nifer y cerddi’n gyfyngedig. Ac mae yna gynifer o bethau i’w hystyried, yn themâu, yn gyfnodau, yn arddull ac ati. Ddim yn job hawdd. Ond ’dwi’n cytuno hefyd y gallai’r maes llafur presennol fod yn fwy amrywiol, ac mae’r prinder merched a’r prinder safbwyntiau lleiafrifol eraill yn fan cychwyn amlwg. A chithau yn cynnal dosbarthiadau cynganeddu, beth yw eich gobeithion chi am ddyfodol y gynghanedd? Oes digon o bobl ifanc yn ymddiddori yn y grefft? Fydd holl bobl ifanc Cymru ddim yn cynganeddu – fel nad ydi pawb yn gweu neu’n creu fideos TikTok neu’n sglefrfyrddio yn eu hamser sbâr. Ond mae yna don o feirdd ifanc dawnus iawn wrthi ar hyn o bryd, a wela i ddim rheswm pam na fydd hynny’n parhau. Mae’r gynghanedd yn rhoi ffordd sbesial iawn i rywun o ddweud pethau. Ac os rhywbeth, mae’r holl gyfryngau posib yn rhoi platfformau cyffrous, newydd i feirdd (gan gynnwys beirdd cynganeddol) y cyfnod yma. Sut mae’r cyfnod clo wedi effeithio ar eich gwaith creadigol? Yn bendant, mae llawer mwy o bobl wedi gofyn i fi sgwennu cerddi comisiwn i anwyliaid ac ati. Efallai’n arwydd o gynhesrwydd rhwng pobl – pobl yn sylweddoli be’ sy’n bwysig ac isio bod yn glên a dangos hynny? Ond cyn y cyfnod clo, roeddwn i’n treulio’r rhan fwyaf o fy nyddiau gartre yn fy stydi beth bynnag, yn sgwennu neu’n cyfieithu. Felly dydi’r pandemig ddim wedi newid lot yn hynny o beth. Serch hynny, ’dwi wir yn gweld eisiau digwydd-iadau byw fel Bragdy’r Beirdd a chyfleoedd eraill i berfformio fy ngwaith o flaen pobl. Er bod Zoom ac YouTube wedi camu’n rhannol i’r adwy, does yna ddim byd fel cael ymateb gan gynulleidfa go iawn. A ’dwi’n gweld eisiau’r cymdeithasu sy’n rhan ganolog o nosweithiau o’r fath hefyd. Faint o hwb oedd ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011 i’ch hyder? A ydych chi’n credu bod gohirio eisteddfodau lleol a chenedlaethol yn debygol o gael effaith negyddol ar ddiddordeb pobl mewn barddoniaeth a barddoni? A finnau’n go ifanc, y peth mwyaf wnaeth ennill y Gadair oedd rhoi hwb a hyder, ynghyd ag agor drysau a chynnig cyfleoedd. Doeddwn i ddim yn fardd arbennig o hyderus cyn hynny. Nid bod ennill wedi chwyddo fy ego’n ormodol (gobeithio!), ond yn bendant mi roddodd y ffydd imi sgwennu mwy o bethau a chyhoeddi stwff. Mae steddfodau o bob math yn feithrinfeydd llenyddol pwysig, ac yn cymell pobl i sgwennu, felly mae unrhyw ganslo yn beth drwg. Ydi bod yn aelod o dîm Talwrn Dros yr Aber yn help i’r broses greadigol? ’Dwi wrth fy modd yn bod yn rhan o dîm Talwrn. I fi, y peth gorau amdano ydi’r cyfle i drafod y gwaith efo aelodau eraill y tîm cyn cyflwyno’r cerddi i’r Meuryn. Cyn gornest, mi fydd tîm Dros yr Aber yn cyfarfod ddwywaith neu dair, fan lleia, i drafod y tasgau a chynnig gwelliannau i waith ein gilydd. Wrth glywed y cerddi’n cael eu datgan, go brin bod y gynulleidfa’n ymwybodol o’r elfen yna o gydweithio a’r holl lafur y tu ôl i’r cyfan. Mae’n ffordd gymdeithasol iawn o farddoni, ac yn gallu bod yn lot o hwyl hefyd. Diolch yn fawr ichi am eich amser, a phob dymuniad da gyda’r nofel newydd. Rwy’n edrych ymlaen at ei darllen. |