Normal a gwahanol
|
Prin iawn yw pobl unigryw.
Ond mae yna ryw ysfa ryfedd ynom ni i fod yn wahanol. Torri cyt trwy dorri gwallt neu wisgo neu fyw mewn ffordd sydd ychydig yn wahanol i’r bobl o’n cwmpas ni. Ac eto ysfa i gydymffurfio â rhyw ffasiwn neu’i gilydd ydy honno’n aml. Cydymffurfio â’r norm a welir ar glawr cylchgrawn neu ar gae pêl-droed. Gwelir hyn yn glir wrth edrych ar luniau neu ffilmiau o’r archif. Er bod pawb wedi dewis eu delwedd bersonol yn ofalus, o edrych o bell, mae i bob cyfnod ei stamp, y norm mae pawb yn anelu tuag ato. Er gwaethaf ffasiwn y funud sydd am ein paentio ni a’n hoes ag un brwsh o ddyfrlliw diflanedig y stryd fawr, o dan y cyfan mae cynfas pob un ohonom yn wahanol. Oherwydd nid byd o bobl normal yn ysu i fod yn wahanol ydym ni, ond byd o bobl wahanol yn ysu i fod yn normal. Bod yn wahanol ydy’r cyflwr mwyaf normal posibl. Rydym yn normal am ein bod ni’n wahanol. Rydym ar ein gorau pan fo bod yn wahanol mor normal fel nad ydym yn sylwi, yn cofio nac yn gweld y gwahaniaethau sydd rhyngom. Pan oeddwn i’n fachgen roedd yna hen ŵr yn sefyll ar sgwâr Amlwch yn cyfeirio’r traffig yn frwd mewn côt hir, frown, flêr; cap a chysgod o locsyn a rhyw olwg reit wyllt yn ei lygad. Sefyll ar stepen drws ei siop fyddai Moses Stein a’i chwaer Pearl, fel eu rhieni cyn hynny. Roedd y ddau yn gymeriadau lliwgar. Iddewon oedd y teulu. Iddewon o Amlwch. Oedden, roedden nhw’n wahanol. Ond eto roedden nhw’n rhan o normalrwydd y dref. Gwahanol ymhlith llond tref o bobl wahanol. Ond pan ddaeth rheolwyr newydd i’r archfarchnad leol, a phan benderfynodd Moses wirfoddoli i roi trefn ar y trolis yn y maes parcio, roedden nhw’n gweld pethau’n wahanol. Roedden nhw’n gweld Moses yn wahanol. A’r unig ffordd o ddelio â hynny oedd drwy alw’r heddlu. Mae deng mlynedd ar hugain wedi mynd heibio ers i mi dywyllu tudalennau’r Ddraigddiwethaf, ac ers i mi adael Ynys Môn am Aberystwyth. Yn y cyfamser aeth Moses a’r gerdd fach yma yn angof. Ond rhoddodd broc amserol i mi’n ddiweddar. Deuthum ar ei thraws ymysg ffeiliau’r cyfrifiadur wrth i mi baratoi i gael fy llusgo ar hyd hen lwybrau’r cof o flaen cynulleidfa o bobl Rhos-y-bol a’r ardal. Atgoffodd fi mor sydyn mae modd anghofio mai bod yn wahanol sy’n normal ac y dylem ni estyn llaw i gofleidio’r tebygrwydd rhyngom yn hytrach nag estyn bys i gyhuddo’r gwahaniaeth. Cerddwch drwy’r byd, edrychwch yn y drych, a dathlwch eich normalrwydd unigryw. *** Newid Meddwl Siop Stein oedd ar y groesffordd ar stryd fawr y dre Yn bresenoldeb diarth ond eto’n rhan o’r lle. Trwyn eryr dan gap stabal a’i locsiach stond yn ddu, Cot law ei dad a’i deidiau, a’i fŵts yn dyllau lu. Dim ond rhai a fentrai heibio i Stein o’r dre Dim ond y rhai a wyddai am berlau’r llwch a’r gwe. Lle da am gadach llestri, crys gwaith neu ben i’r mop, Roedd pen draw i bob ymchwil yn nhrysor blêr ei siop. Rhwng Moses Stein a Pearl, ei chwaer â’r lipstic coch, Y blerwch aeth yn llanast a’r perlau yn draed moch. Aeth synnwyr craff yr Iddew ar goll rhwng gwên a phoer, Aeth sglein yr aur yn ei lygaid yn hiraeth lludw oer. Trwyn eryr dan gap stabal a’i locsiach stond yn ddu, Cot law ei dad a’i deidiau a’i fŵts yn dyllau lu, Yn null y mud a’r byddar o’i bwlpud ar y step Fe drefnodd draffig Amlwch, a chodi gwên i wep. Roedd Stein yn dal ar groesffordd yn brysur wrth ei waith A’r byd yn gwibio heibio, heb ’i weld na'i wawdio chwaith. Roedd plant ers cenedlaethau yn nabod Moses Stein, Y dyn a’r stumiau rhyfedd na fyddai’n troi tu min. Yr un nad oedd yn perthyn, oedd yno ers cyn co’, Ei wedd yn ddigon diarth a’i enw hyd y fro. Fe godwyd rhyw archfarchnad ar gyrion clos y dre A Moses gymrodd ffansi bugeilio’r trolis gwe. Doedd bobol Llan ’m ni weld o, roedd o yn un â’r dre, Ond welai pobol Kwik-Save ddim ond hen dramp hyd lle. Fe’i cyrchwyd gan yr heddlu ryw dro neu ddau i’w cell, Cwsmeriaid newydd Kwik-Save drafaelia i’r dre o bell. Welodd neb mo Moses am sbelan hyd y dre Ond welid byth mo Moses, on’d oedd o’n un â’r lle? Siop Stein fydd siop y groesffordd a’i ffenestri’n ddall gan goed Yn atgof am ddieithryn fu’n sefyll yno rioed. |