Sgwrs ag un o drigolion Cwm Gwaun, Leila Evans
|
Mae Leila Evans, Mam-gu, yn un o drigolion Cwm Gwaun, ger Abergwaun yn Sir Benfro, cwm clyd gydag afon Gwaun yn llifo drwy’r canol. Lle unigryw gyda thraddodiad unigryw. Ni ddethlir dydd Calan yn yr un ffordd yma ag yng ngweddill y wlad, oherwydd fe’i dethlir 12 diwrnod yn “hwyr” fel petai. Ydyn, mae trigolion Cwm Gwaun yn dymuno Blwyddyn Newydd Dda ar 13 Ionawr bob blwyddyn. Mae’n draddodiad sydd wedi goroesi canrifoedd ac yn dal i barhau hyd heddiw! Er i minnau ddathlu’r Hen Galan yn flynyddol, diddorol oedd clywed beth oedd gan fy mam-gu i’w ddweud am yr hen arferion a fu.
Sut dechreuodd y traddodiad? Cafodd y calendr Julian ei ddiddymu yn 1752 ac yn ei le cyflwynwyd y calendr Gregoraidd. Penderfynodd pobl Cwm Gwaun lynu at yr hen galendr a dathlu’r flwyddyn newydd ar y trydydd ar ddeg o Ionawr, ac fel ’na mae hi wedi bod ers ’ny. Beth oedd prif nodweddion y dathlu? Ar doriad y wawr ar y 13eg o Ionawr, byddai plant yn dechrau ar eu taith, yn canu caneuon dydd Calan o amgylch tai a ffermydd y Cwm gan weiddi “Blwyddyn Newydd Dda” ar ddiwedd y gân. Byddai perchennog y tŷ yn rhoi calennig iddyn nhw wedyn, a chynnig digon o fwyd a diod. Roedd Hen Galan yn ddydd arbennig iawn, llawer yn bwysicach na dydd Nadolig! Byddai’r dathlu yn parhau a phan fyddai’n nosi byddai’r oedolion yn codi’r bys bach a chanu nes colli’u lleisiau! Ma’r Hen Galan wastad ’di bod yn beth mowr, chi’n gweld. A gawsoch eich magu yn y Cwm? Do, a fy mam a’i mam hithau. Mae ’ngwreiddiau i yn y Cwm ’ma. Roedden nhw hefyd yn dathlu’r Hen Galan. A oedd y dathlu’n wahanol yr adeg honno neu a oedd yn eithaf tebyg? Mae’r canu a’r casglu calennig yn union yr un peth heddiw ag yr oedd ganrif yn ôl, ydy. Dwi’n cofio fy mam yn sôn bod ei thad yn cario cas pilw (gobennydd) o gwmpas y tai wrth ganu ar Hen Galan a'i fod e’n derbyn torth o fara a phishyn o gaws fel calennig. Byddai hwn yn sicr wedi bod yn help mawr i’r teulu. Roedd pobl yn dlotach yr amser hynny a byddai wedi bod yn ddefnyddiol i’r teulu. Beth yw “macsu” a phwy fyddai’n ei yfed? Roedd macsu’n fath o ‘home brew’a fyddai’n cael ei yfed (gan oedolion wrth gwrs) ar y dydd. Roedd yn hynod o felys a hefyd yn gryf. Barlys oedd yn cael ei ddefnyddio i greu’r ddiod, a dwi’n cofio unwaith am y sŵeg (sef y gweddillion o’r barlys oedd ar ôl y macsu) yn cael ei daflu i’r domen tu fas i’r tŷ. Daeth hwch y fferm i fwyta’r sŵeg a meddwodd yr hwch gan gerdded y clos yn gwegian a chwympo! Ydych chi’n cofio rhai penillion y byddech wedi eu canu fel plentyn yn teithio o dŷ i dŷ? ‘Dwi’n cofio sawl un a dweud y gwir, ac wedi clywed nifer helaeth! Yr un mwyaf adnabyddus yw’r dôn: Blwyddyn Newydd Dda i chi, Ac i bawb sydd yn y tŷ, Dyma yw’n dymuniad ni, Ar ddechrau’r flwyddyn hon. Gan weiddi “Blwyddyn Newydd Dda!” ar y diwedd. Bydden ni hefyd yn canu’r geiriau: Hen Galan, Hen Galan, mae’r eira yn wyn, Mae rhew ar y ffenest ac iâ ar y llyn, Mae rhew ar y ffenest ac iâ ar y llyn. Daw’r Robin i’r gegin A’i fynwes yn goch, A rhed plant y pentre’ i wrando y gloch, A rhed plant y pentre' i wrando y gloch. A dyma gân arall boblogaidd iawn sydd dal i’w chlywed gan y plant heddiw, a genir ar alaw’r “Mochyn Du”: Mae dydd Calan wedi gwawrio Dydd tra hynod yw i gofio, Dydd i roddi dydd i dderbyn, Yw’r trydydd dydd-ar-ddeg o’r flwyddyn. Rhowch yn hael i rai gwael, Rhowch yn hael i rai gwael, Pawb sy’n ffyddlon i roi rhoddion, Yw’r rhai hynny sydd yn cael. Dyna nawr r’yn wedi pennu, Llwyddiant mawr fo i chwi’r teulu, Os cawn eto flwyddyn gyfan, Cadwch fynnu’r Hen Ddydd Calan. Mae sawl cân wedi’i nodi yn Llyfr Lloffion Cwm Gwauna ysgrifennwyd gan Anti Pegi o’r Cwm. Nodir yn hwn sawl pennill na chlywir mwyach ar Hen Galan megis: Mae heddiw yn ddydd calan I ddyfod ar eich traws, I mofyn am y geiniog, Neu glwt o fara-chaws. Dowch at y drws yn serchog, Newidiwch byth mo’ch gwedd, Cyn daw dydd Calan eto, Bydd lawer yn y bedd. Cenir y gân nesaf ar yr alaw “Sosban Fach”: Os aeth yr hen flwyddyn heibio A’i phleser a’i gofid i gyd, Mae blwyddyn arall wedi gwawrio, Yn awr dros wyneb yr holl fyd. Rhown ein llef o foliant iddo Ef, Rhown ein llef o foliant iddo Ef, Yn awr dros wyneb yr holl fyd. A fyddai’r dathlu yn parhau tan yr hwyr? Byddai siŵr iawn! Byddai’r macsu’n cael ei yfed tan oriau mân y bore. Yn ystod y dydd byddai plant yn canu o gwmpas y tai ond gyda’r nos roedd merched a bechgyn ifainc yn canu o gwmpas y ffermydd. Yn ddiweddarach, roedd teuluoedd yn ymgasglu gyda’r nos mewn un lle, fel Pontfaen ac yn canu gyda’i gilydd (gan feddwi wrth gwrs!) gyda rhai yn canu unawdau ac eraill ddeuawdau. Bob blwyddyn byddai un unigolyn yn perfformio a phregethu fel yr hen bregethwyr gynt. Roedd e’n hoffi dynwared Jubilee Young, a’i hoff bregeth oedd “Y Mab Afradlon”. Byddai e’n pregethu a gweiddi nes ei fod yn chwys diferu. Oes gennych hanesion am arferion eraill? ‘Dwi wedi clywed bod yna hen ddefod arbennig ar ddydd Hen Galan a’i enw oedd “Bendithio’r Arad”. Rhywbryd yn ystod y dydd, roedd y ffermwr yn arllwys y gwydraid cyntaf o’r macsu dros arad y fferm er mwyn rhoi lwc dda i’r cnwd. Credent y byddai gwneud hyn yn ffrwythloni’r tir ar gyfer cael cnwd da yn yr Hydref.’ Faint o blant ddaeth o gwmpas i ganu eleni? 30 eleni: mae’n newid bob blwyddyn. Wrth gwrs mae llai o blant yn dod o gwmpas nawr o gymharu â’r gorffennol, ond dwi mor falch bod y traddodiad yn dal i fynd. Hir oes i’r Hen Galan! |