Luned a Dafi
|
Dihunodd Luned â’i boch yn sownd wrth batshyn llaith ar fraich soffa bob dydd y gegin – wedd mis o borthi gofidie tan oriau mân y bore yn dechrau gadael ei ôl arni. Wedd hi’n jocôs reit ca’l pendwmpian o flaen yr Hamco wedi i’r plant droi am eu gwelâu. Er na ddywedai wrth yr un ohonyn nhw, wedd wynebu’r gwely dwbl ar ei phen ei hunan yn ormod ar hyn o bryd. Triodd olchi’r cynfasau sawl gwaith, ond buasai codi pyjamas ei gŵr a sento’i sent yn gwanychu, slowbach, yn arwain at orie o lefen tawel.
Wedd hi’n sobor o ddiolchgar i’w chymdogion am gynnig pownd wrth iddi geisio ca’l ei thra’d oddi tani. Buasai basned o gawl, stiw o ryw fath neu slaben o gêc wedi’i lapio mewn cwdyn Tesco yn disgwyl amdani yn y porch bob nos yn ddi-ffael. Ofnai anghofio shwt beth wedd cwcan pryd deche i’w theulu, gan mor hael wedd gwragedd yr ardal. Ond fel popeth, buasai’n rhaid ailgydio’n hwyr neu hwyrach. Rhys, mab hena’ Penlan, ddaeth ar y bore cynta’ hwnnw, a phob bore wedi hynny, ware teg iddo. Ond wedd ffarm fowr ym Mhenlan, a digon o waith gyda’i dad iddo getre. ‘Cofia di roi showt os wes ishe llaw, Luned fach,’ wedd ei eiriau wrth i’r wers olaf am fecanics y parlwr ddod i fwcl. ‘Dwi bownd o gofio, Rhys Bach, diolch iti, a diolch am bob peth.’ Buse, fuse hi’n fodlon ffono Penlan tase rhyw broblem fowr, ond wedd rhaid pitsho miwn a sefyll ar ei thra’d ei hunan am damed bach gynta’ ‒ dyna fuse Dafi wedi’i ’neud tase hi wedi mynd i’r mart a dychwelyd mewn arch. Ond ar ôl meddwl, doedd dim peryg o hynny, gan nad oedd Luned yn mentro ymhellach na’r tanc i nôl lla’th i’r tŷ heb sôn am fynd i’r mart. Fuodd hi’n godro gyda Dafi yn nyddiau cynnar eu caru; wedd hi’n enjoio codi gyda’r wawr a gwisgo’i hoferôls cyn dychwelyd i’r tŷ am fry up gyda’i fam. Ond fe bylodd yr hwyl yn hynny, a gobeth Dafi hefyd o fachu gwraig ffarm. Daeth Luned yn gyfarwydd â chlochdar larwm ei gŵr a’r sws foreol ar ei thalcen. Ac yn ddiweddarach â sŵn tra’d bach ar y landin, a’r bregeth: ‘Cewch chi helpu Dad i odro dros y penwthnos, dewch nawr cyn bo’r gwely’n oeri.’ A mewn â’r ddau ati am fagad nes bod curiad calon y parlwr godro yn eu suo i gysgu. Ond dim heddi’ … Cododd Luned o’r soffa, llyncu pennad o ddŵr a gwisgo’i hoferôls newydd amdani. Sicrhaodd bod ganddi fenig i’w gwisgo – wedd hi wedi rhoi’r gore i ddysgu er mwyn cynnal y ffarm, ond wedd hi ddim yn fodlon ildio’i dwylo gleiw am rofie geirwon chwaith. Cydiodd mewn hen lyfyr ’sgwennu â’i glawr yn grwstyn o ddom. Wedd hi’n ffyddiog na fyddai’n rhaid ei ddefnyddio, ond wedd hi’n saffach cadw cynghorion Rhys ym mhoced ei chot, rhag ofon. Buse’n rhaid gwylltu i’r tŷ erbyn saith er mwyn dihuno’r plant ar gyfer mynd i’r ysgol. Ond fe lwyddodd o’r diwrnod cynta’, a neidiodd y ddau i’r bws gan adael eu mam ar y clos â bwcedaid o gêc i’r lloi ym mhob llaw. Daeth Luned i’r tŷ erbyn un, tannodd welâu’r plant a thwtio peth annibendod, ond cyn cael cyfle i fyta sangwej i gino wedd sŵn chwyrnu’r hen fws yn ôl wrth y bwlch. Daeth y plant oddi arno’n hanesion ac yn wenau i gyd. ‘Dewch nawr, gwisgwch eich dillad bob dydd ‒ allwch chi helpu mami i fwydo’r lloi.’ Bwytasant dafell o fara menyn jam cyn dilyn eu mam i’r parlwr yn eu hoferôls coch a glas. Wedd Gwilym, whare teg, yn lot o help. Bwydai’r lloi ar ei ben ei hunan cyn defnyddio’r beipen Sam Tân i olchi’r parlwr yn leiw lân. Tshaso’r gath fu hanes Marged am awr, cyn sillafu’i henw ym mlawd llif y cubicles – ond diolchodd Luned iddi beth bynnag. Wedd y stoc yn eu gwelâu, wedi’u bwydo a’u godro, a Luned wedi concro ei diwrnod cyntaf fel gwraig ffarm. Cododd sosban o gaserol i’r ford er mwyn dathlu, gan gwestiynu shwt wedd Dafi’n dod i ben â hyn bob dydd? ‘Mami. . . ?’ Holodd Marged. ‘Ie bach, be’ sy?’ ‘Pam fo pedwar plât ar y ford?’ *** Fel rheol buse llais Geraint Lloyd yn toddi’n un â’i breuddwydion ar y soffa, ond heno fe droeodd y radio i’r Saesneg a hithe’n ishte’n y gegin mor effro â gwdihŵ. Aeth ati i dynnu ambell garden o gydymdeimlad oddi ar y seld. Wedd rhaid wynebu bob dydd ar y tro, a hyd yn hyn wedd hi’n dod ben â hi’n lle’ dda. ’Tase pethe’n mynd yn drech, wedd digon o arian yng nghoffrau’r ffarm i gyflogi rhyw was Pwylaidd. Chwarddodd wrth ddychmygu’r cleber ar sgwâr y pentre, ‘Luned Hafod Ddu yn rhannu tŷ â rhyw was cyn bod Dafi, druan, wedi oeri’n ei fedd.’ Ond trodd ei chwerthin yn sterics nes bod sŵn trado ar y stâr. ‘Wyt ti’n iawn mami?’ ‘Wdw Gwil bach, dw i fel y boi – becso am y cynhaea’, ’na gyd.’ ‘Paid becso dim mam fach, ma’ sbel tan y cynhaea’ ’chan, a fydda i ’da ti eniwei.’ ‘Diolch iti bachan, cer i gysgu nawr, iti ga’l helpu yn y bore.’ ‘Dere am gwtsh mami, gysgu di’n well. . .’ Wedd y crwt saith oed yn iawn – buse cwtsh yn ffordd o rannu’r gofid am nosweth beth bynnag. ‘Ocê de, ond paid gwneud wrth Marged, neu fydd hi off ma.’ Cysgodd Luned fel pren â’i mab yn gysur wrth ei hochr. Wedi’r cwbwl, wedd lot o ddŵr i fynd dan y bont cyn y cynhaea’. *** ‘Prwy, prwy, prwy fach …’ Dilynodd Luned darth cynnes y da i’r glowty. Croesawai rew caled wedi gaea’ slabog – wedd ishe rhwbeth i sychu’r tir a lladd y jyrms. Gwasgodd drwy wres a thuchan y da ac aeth ati i dano’r parlwr er mwyn rhyddhau’u cadeiriau llaethog o’u llwyth. Suddodd ei chalon. Wedd y cwbl ar stop. Gwasgodd y bwtwn unwaith ’to, ond wedd yr injan yn farwaidd o fud. Drato, wedd y peips wedi rhewi – cofiai am natur Dafi a’i iaith fowr wrth alw am ddŵr berw yn y porchadeg tywy’ rhew. Brefai’r da’n ddiamynedd gan ryddhau’u natur mewn cwmwle o stêm, a disgwyliai Luned sterics tebyg wrth fachan y tancer ymhen rhyw ddwy awr. Aeth i’r tŷ i fofyn sychwr gwallt, a daliodd y sychwr yn erbyn pob piben yn ei thro gan obeitho am wres i ddadleth y rhew. Harllwysodd ddŵr berw dros y cwlows, a jiawch, daeth curiad yn ôl i galon y parlwr. Gwylltodd â’r godro cyn dihuno’r plantos a threulio gweddill y dydd yn carto dŵr i’r da, gan fod y cafne wedi rhewi’n gorn. *** Wrth deithio ar fws ysgol, daw plantos cewn gwlad yn gyfarwydd â sent pob ffarm. Mae ambell ffarm fel pìn mewn papur, a’r clos yn sheino heb flewyn o wair o’i le. Pâr eraill i’r plant ddala’u trwyne ac i’r gyrwyr anadlu drwy’u cegau haf a gaea’ gan ba mor gryf yw sent y slyri neu, yn waeth na hynny, sent seilej sur. Addawodd Luned na fyddai Hafod Ddu, ’waeth pa mor anodd wedd pethe arni, yn mynd i ddrewi o seilej sur. Ond wedi gaea’ go wlyb, wedd y pit slyri yn llawn hyd y top, a chronnai’r biswel yn llonydd yn yr iard grynhoi. Pan ddeuai sbelen o dywy’ sych, mentrai Luned i’r tractor â’i dwylo’n furum o chwys i sgwaru llwyth o ddom. Ond erbyn y bore wedyn, wedd y slyri’n ôl yn yr un man ac yn gwaedu i’r clos, slowbach. Deffroai o’i chwsg yn feunyddiol wrth ddychmygu’r slyri’n llifo’n slei o’r pit i’r clos a chodi’n uwch ac yn uwch nes bod y stecs yn twtsh â drws y ffrynt ac yn bwldagi i’r porch trw’r letter box. A phob nos buasai’n rhaid codi o’r soffa er mwyn pipo bod y porch yn leiw lân, cyn sychu’r llawr yn glou â mop, rhag ofon. Ond a hithe heb damed o glem ynglŷn ag achub y sefyllfa, aeth y pit slyri i’r rhestr o bethau i’w gwneud. Wedi i’w chyfnod mamolaeth ddod i ben gyda Marged, wedd Luned wedi cwtogi ei horiau dysgu gan adael bwlch o ddiwrnod ar gyfer cynnal tŷ cymen a helpu Dafi â’r gwaith papur cynyddol. Wedd gwaith caib a rhaw Hafod Ddu yn estron iddi, ond diolchodd iddi feistroli’r ochr weinyddol ar bethau flynyddoedd ynghynt. Y gamp bellach oedd gwasgu’r gwaith papur rhwng y ffarmo, y plant a chwsg, ond ym mherfeddion y nos, fel rheol – pan fyddai pob awr yn teimlo fel deg – y deuai golau i’r tamed swyddfa wrth ymyl y gegin. Wedd trefen perffaith i’w system ffeilio yn y cabinet llwyd yng nghornel y swyddfa, oni bai am ddrôr Dafi – wedd hwnnw’n ddirgelwch. Wedd hi’n jôc fowr gyda’r plant mai yn y drôr wedd losin Dadi. Bwytâi Grunchie fach slei o fla’n yr Hamco yn ei dra’d sane bob nos cyn gwasgu’r pacyn i gesail y soffa fel pader. Arferai’r nyth o bapurau euraid godi natur ar Luned ond, wrth edrych ar y drôr heno, fuse hi’n falch o gael rheswm dros bregethu. Gwyddai Luned mai ofer oedd chwilio am ewyllys creadur di-drefn fel Dafi, yn enwedig am nad oedd ca’l ei ladd yn y mart yn rhan o’i gynllun, hyd y gwyddai hi. Am y rhesymau hynny a’r diffyg amser, nid ymdrechodd i dwrio dim yn eiddo’i gŵr. Ond heno wedd want Crunchie arni, Crunchie i gofio am Dafi’n pendwmpian yn ei draed sane. ’Mestynnodd am yr allwedd fechan a oedd wedi’i chladdu yn nhrwch dwst silff ucha’r seld ac agor drôr stiffaf y cabinet. Yno, ymhlith mân doriadau’r Farmers Weekly, amlenni’r weinidogaeth ac ambell Grunchie, wedd ei ddyddiaduron. Darllenodd ambell bwt o’r ’sgrifen bigog a theimlo ôl dwylo gwaith ei gŵr. Yn ei sgribyls wedd enwau’r perci a’u herwau ym mhob tywydd, boreau o aeaf a’r clos fel stania, a chnydau’n sbwylo wedi hafau gwlyb. Wedd lloi yn sgawri, da yn cloffi a phris y llath yn cwmpo o dro i dro. Wedd Dafi’n ffaelu hefyd ambell waith, yn ffaelu pwmpo’r slyri’n ddigon clou na chadw’r cynrhon brwnt o dinau’r ŵyn. Wedd e’n ffaelu dofi stranc pob buwch pan ddeuai’r fet na chadw pob anifail ar dir byw. Ac o weld y rhifau ffôn ar ddarnau o garden Cornflakes wedd e’n ffaelu dod ben â’r cwbwl ar ei ben ei hunan bob tro. Bwytaodd Luned y Crunchie gan adael i’r crwybr melys doddi ar ei thafod. Gwnaeth gofnod o’i jobsys ar gyfer y bore cyn noswylo i’r gwely dwbwl, a’r dyddiadur yn ei llaw. |