Saith merch
|
Branwen ar lan afon Alaw
Fe af at lan yr afon, i’w dwndwr i dendio fy nghalon, ond ei dŵr ddwed yn dirion na allai hi wella hon. I Tracy Hinton (merch ddall fu’n rhedeg dros Gymru yn y gemau paralympaidd) Daw heno it adenydd a hyder i redeg dy drywydd o’th asio â thywysydd, â rhaff i’th ollwng yn rhydd. Rhiannon Dan boen na adwaen benyd, er galar rhy galed i’w fatryd, a bai yn heintio’i bywyd y bu hon yn cludo’r byd. Eileen Beasley Yn dyner o’i hadenydd daw egni a dygnwch aflonydd a’i hana’l uwch y gweunydd, dradwy yn rhyferthwy fydd. Emma Goldman ‘If I can’t dance, I don’t want to be in your revolution’ Trwy guriad taer ei geiriau, yn dyner fe dynnodd ei ’sgidiau a galw’i hoes i’r ddawns glau i droedio chwyldroadau. Rosa Parks Er dannod, ni wnaeth godi, a mynnodd am unwaith berchnogi un sedd oedd â’i hurddas hi a’i siwrne’n felys arni. Y Dywysoges Gwenllian (merch Llywelyn ein Llyw Olaf) Diffoddwyd fflam ei mamiaith, y geiriau fu’n gaer iddi unwaith. Ni fu i hon arfau’i hiaith, na’i hidiomau’n gydymaith. |