Nid Orennau yw'r Unig Ffrwyth
|
Daw’r darn hwn o gyfieithiad o’r nofel 'Oranges are not the only fruit' gan Jeanette Winteron, a fu’n rhan o waith Nia Wyn Jones ar gyfer MA Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol.
GENESIS Fel y rhan fwyaf o bobl roeddwn yn byw am amser hir gyda Fy Mam a fy nhad. Roedd fy nhad yn hoffi gwylio’r reslo, ac roedd Fy Mam yn hoffi reslo; doedd dim gwahaniaeth gyda beth. Roedd hi yn y Gornel Wen, a dyna ddiwedd arni. Byddai’n hongian y cynfasau mwyaf i’w sychu ar y dyddiau mwyaf gwyntog. Roedd hi eisiau i’r Mormoniaid guro ar y drws. Ar adeg etholiad, a ninnau mewn tref o weithwyr ffatri, tref Lafur, byddai’n rhoi llun o ymgeisydd y Blaid Geidwadol yn y ffenest. Nid oedd hi erioed wedi clywed am deimladau cymysg. Ceid ffrindiau a cheid gelynion. Dyma oedd y gelynion: Y Diafol (yn ei amryfal ffurf) Drws Nesaf Rhyw (yn ei amryfal ffurf) Gwlithod Dyma oedd y ffrindiau: Duw Ein ci Anti Madge Nofelau Charlotte Brontë Gronynnau lladd gwlithod a minnau, ar y dechrau, roeddwn wedi cael fy nwyn yno i ymuno â hi mewn gêm tic yn erbyn gweddill y byd. Roedd ganddi agwedd gyfriniol tuag at genhedlu plant; nid na allai wneud, ond yn hytrach nid oedd am wneud. Roedd hi’n chwerw iawn fod y Forwyn Mair wedi achub y blaen arni. Felly, gwnaeth y peth agosaf y medrai at hynny a threfnu i fabwysiadu caeledigan. A fi oedd honno. Ni allaf gofio cyfnod lle na wyddwn fy mod yn arbennig. Nid oedd gennym ni Wŷr Doeth gan na chredai fod gwŷr doeth yn bodoli, ond roedd gennym ddefaid. Mae un o fy atgofion cyntaf yn ymwneud ag eistedd ar ddafad adeg y Pasg wrth iddi adrodd stori Oen y Pasg. Byddem yn ei fwyta i ginio Sul gyda thatws. Dydd Sul oedd diwrnod yr Arglwydd, diwrnod mwyaf bywiog yr wythnos gyfan; gartref roedd gennym ni radiogram â thu blaen mahogani urddasol a botwm Bakelite i’w droi i ddod o hyd i’r gorsafoedd radio. Gan amlaf gwrandawn ar y ‘Light Programme’, ond wastad ar y Sul byddem yn gwrando ar y ‘World Service’, er mwyn i Fy Mam allu cofnodi cynnydd ein cenhadon. Roedd ein Map Cenhadu yn hardd iawn. Ar y tu blaen ceid enwau’r holl wledydd, ac ar y cefn siart wedi ei rifo yn esbonio’r Llwythau a’u Nodweddion. Fy hoff un oedd Rhif 16 Y Bŵsl o Garpathia. Fe gredant pe byddai llygoden yn gwneud nyth â’ch gwallt y byddech yn cael cur yn eich pen. Pe byddai’r nyth yn ddigon mawr fe allech fynd yn wallgof. Hyd y gwyddwn i, nid oedd yr un cenhadwr wedi ymweld â nhw hyd yn hyn. Codai Fy Mam yn gynnar ar y Sul a ni chaniatâi i neb fynd i’r parlwr tan ddeg o’r gloch. Hwn oedd ei lle hi ar gyfer gweddi a myfyrdod. Oherwydd ei phengliniau byddai’n gweddïo ar ei sefyll, fel y byddai Bonaparte yn rhoi gorchmynion yn eistedd ar ei geffyl oherwydd ei faint. Credaf fod y berthynas a fwynhâi Fy Mam â Duw yn ymwneud dipyn â sut byddai’n lleoli ei hun. Roedd hi’n un am yr Hen Destament hyd fêr ei hesgyrn. Nid oedd oen addfwyn y Pasg at ei dant, roedd hi allan, ar y blaen gyda’r proffwydi, ac â thuedd i bwdu o dan y coed pan na ddeuai’r dinistr priodol. Yn aml byddai’r dinistr hwnnw yn digwydd, ac ni wn ai oherwydd ei hewyllys hi neu ynteu ewyllys yr Arglwydd oedd hynny. Byddai o hyd yn gweddïo yn union yr un ffordd. Yn gyntaf byddai’n diolch i Dduw am gael byw i weld diwrnod arall, wedyn byddai’n diolch i Dduw am arbed y byd am ddiwrnod arall. Wedyn byddai’n sôn am ei gelynion, sef y peth agosaf oedd ganddi i gatecism. Cyn gynted ag y clywn ‘MYFI SY’N DIAL MEDDAI’R ARGLWYDD’ yn taranu drwy’r wal i’r gegin byddwn yn rhoi’r tegell ymlaen. Roedd berwi’r dŵr a gwneud y te yn cymryd yr un amser a’ gorchwyl olaf, sef rhestr y cleifion. Roedd hi’n gyson iawn. Rhoddwn y llefrith i mewn, a deuai hi i mewn ac, wrth gymryd llymaid mawr o de, dywedai un o dri pheth. ‘Mae’r Arglwydd yn dda’(wrth graffu’n oeraidd i’r iard) ‘Pa fath o de ydi hwn?’ (wrth graffu’n oeraidd arna i) ‘Pwy oedd y dyn hynaf yn y Beibl?’ Wrth gwrs, roedd rhif 3 yn amrywio, ond byddai o hyd yn gwis Beiblaidd. Byddem yn cymryd sawl cwis Beiblaidd yn yr eglwys a hoffai Fy Mam i mi eu hennill. Pe gwyddwn yr ateb, gofynnai gwestiwn arall i mi, pe na wyddwn yr ateb, byddai’n gwylltio ond ni pharai’n hir gan y byddai’n rhaid gwrando ar y ‘World Service’. Roedd hi wastad fel hyn; byddem yn eistedd i lawr un bob ochr i’r radiogram, hi efo’i the, a minnau efo phensil a phapur; o’n blaenau, y Map Cenhadu. Rhoddai’r llais pell newyddion am weithgareddau, dychweledigion a phroblemau o ganol y set. Ar y diwedd roedd apêl am EICH GWEDDÏAU. Roedd yn rhaid i mi gofnodi’r cwbl iddi hi gael rhoi ei hadroddiad yn yr eglwys y noson honno. Hi oedd yr Ysgrifenyddes Cenhadu. Roedd Adroddiad y Cenhadon yn gryn brawf i mi gan y byddai ein pryd ganol dydd yn dibynnu arno. Os â’i yn dda, dim marwolaethau a chryn dipyn o ddychweledigion, byddai Fy Mam yn paratoi cinio rhost. Os oedd yr annuwiol nid yn unig wedi bod yn ben caled, ond yn filain hefyd, treuliai Fy Mam yn weddill y bore yn gwrando ar raglen ‘Jim Reeves Devotional Selection’, a byddai’n rhaid i ni gael ŵy wedi ei ferwi a thost wedi ei dorri’n soldiwr. Roedd ei gŵr yn ddyn hawddgar, ond gwyddwn fod hyn yn ei ddigalonni. Byddai wedi hwylio cinio ei hun oni bai am argyhoeddiad llwyr Fy Mam mai hi oedd yr unig un yn ein tŷ ni a allai wahaniaethu rhwng sosban a phiano. Roedd hi’n hollol anghywir o’n safbwynt ni, ond yn hollol gywir yn ei meddwl ei hun, a hynny, mewn gwirionedd, oedd yn cyfri’. Rhywsut byddem yn goroesi’r boreau hynny, ac yn y pnawn byddai ni’n dwy yn mynd â’r ci am dro, tra byddai fy nhad yn glanhau’r esgidiau i gyd. ‘Fedri di ddeud rhywbeth am rywun yn ôl ei esgidiau,’ meddai Fy Mam. ‘Edrycha ar rheina Drws Nesa.’ ‘Diod,’ meddai Fy Mam yn llym wrth i ni gerdded heibio’u tŷ. ‘Dyna pam eu bod nhw’n prynu bob dim o lle Seconds Catalog Maxi Ball. Mae’r Diafol ei hun yn feddwyn’ (weithiau byddai Fy Mam yn dyfeisio diwinyddiaeth newydd). Roedd Maxi Ball yn berchen ar warws. Roedd ei ddillad yn rhad ond ni pharent yn hir, ac roedd oglau glud diwydiannol arnynt. Byddai’r diobaith, y diofal, y tlotaf, yn cystadlu â’i gilydd ar fore Sadwrn i godi beth allan nhw a dadlau dros y pris. Byddai’n well gan Fy Mam lwgu na chael ei gweld yn warws Maxi Ball. Roedd hi wedi fy llenwi ag arswyd am y lle. ‘Doedd hynny ddim yn deg iawn ohoni, a ninnau yn adnabod cymaint a fyddai’n siopa yno, ond ni fu hi erioed yn un arbennig o deg; roedd hi’n caru ac yn casáu, a chasâi Maxi Ball. Unwaith, yn ystod y gaeaf, cafodd ei gorfodi i fynd yno i brynu staes, ac ar ganol y cymun y Sul hwnnw, llithrodd darn o asgwrn morfil allan o’r staes a’i thrywanu reit yn ei bol. Am awr, ni allai wneud dim. Wedi i ni gyrraedd gartref, rhwygodd y staes a defnyddio’r esgyrn morfil fel ffon i ddal ein blodau geranium, ac eithrio un darn a roddodd i mi. Mae’n dal gen i, a phan fyddaf yn meddwl am dorri corneli byddaf yn meddwl am yr asgwrn morfil hwnnw ac yn gwybod yn well. Cerddodd Fy Mam a minnau ymlaen tua’r bryn a safai ar dop ein stryd. Roeddem yn byw mewn tref a oedd wedi cael ei thrawsblannu o’r cymoedd, lle â simneiau a siopau bach a thai cefn-wrth-gefn heb erddi. Roedd y bryniau yn ein hamgylchynu, ac roedd ein bryn ninnau yn ymledu allan i’r Penwynni, â fferm neu hen weddillion o gyfnod y rhyfel yn tarfu arno o bryd i’w gilydd. Ar un adeg roedd llawer o hen danciau ar hyd y lle, ond mi aeth y cyngor â nhw i ffwrdd. Blotyn tew oedd y dref ac ymestynnai’r strydoedd yn ôl yn araf i’r gwyrddni. Roedd ein tŷ yn agos i dop stryd hir a syth. Stryd â llawr llechi oedd hi â ffordd wedi ei wneud o gerrig anwastad. Pan fyddwch yn dringo i ben y bryn ac edrych i lawr fe welwch bopeth, fel yr Iesu ar y pinacl, serch nad yw’n llawer o demtasiwn. Draw tua’r dde roedd y draphont a thu ôl i’r draphont ceid fflatiau Ellison, lle cynhaliwyd y ffair unwaith y flwyddyn. Byddwn yn cael mynd yno ar yr amod mod i’n dod â thwb o bys du yn ôl i Fy Mam. Mae pys du yn edrych fel baw cwningod ac maen nhw’n dod mewn grefi tenau wedi ei wneud o stoc a stwnsh sipsi. Maen nhw’n blasu’n rhyfeddol. Roedd y sipsi yn gwneud llanast ac yn aros ar eu traed drwy’r nos a byddai Fy Mam yn eu galw’n buteinwyr ond, ar y cyfan, roeddem yn cyd-dynnu’n dda iawn. Ni fyddan nhw’n cymryd sylw o’r afalau taffi a fyddai’n diflannu, ac weithiau, os oedd hi’n ddistaw a doedd gennych chi ddim digon o bres, mi fydda nhw’n gadael i chi gael tro ar y dojems. Mi fyddem ni’n cwffio tu ôl i’r carafanau, y rhai fel fi, plant y stryd, yn erbyn y rhai crand o’r Afeni. Byddai’r rhai crand yn mynd i’r Brownies a ddim yn aros i gael cinio ysgol. Unwaith, pan oeddwn yn casglu’r pys du, ac ar fin mynd adref, gafaelodd yr hen ddynes yn fy llaw. Ofnwn ei bod am fy mrathu. Edrychodd ar gledr fy llaw a chwerthin ychydig. ‘Phriodi di byth,’ meddai, ‘dim chdi, a fyddi di byth yn llonydd.’ Chymrodd hi ddim arian am y pys, a dywedodd wrthyf am redeg adref yn gyflym. Rhedais nerth fy nhraed, gan geisio deall beth a olygai. ‘Doeddwn i ddim wedi meddwl am briodi beth bynnag. Rown i’n adnabod dwy ddynes nad oedd ganddyn nhw ddim gwŷr o gwbl; roedden nhw’n ddigon hen, cyn hyned â Fy Mam. Roedden nhw’n rhedeg y siop bapur ac weithiau, ar ddydd Mercher, byddwn yn cael bar banana ganddynt efo fy nghomic. Roeddwn yn eu hoffi’n fawr iawn, a byddwn yn siarad amdanynt yn aml efo Fy Mam. Un diwrnod fe ofynnodd y ddwy a hoffwn fynd i’r traeth efo nhw. Rhedais adref, dweud y newyddion yn wyllt, ac roeddwn wrthi’n gwagio fy nghadw-mi- gei i brynu rhaw newydd pan ddywedodd Fy Mam na yn gadarn, unwaith ac am byth. Fedrwn i ddim deall pam na chawn fynd, ac nid oedd hithau am esbonio. Chawswn i ddim hyd yn oed fynd yn fy ôl i ddweud na chawswn fynd. Wedyn canslodd fy nghomig a dweud wrtha i am ei gasglu o rywle arall, yn bellach i ffwrdd. Roedd hynny’n chwith gen i. Ni chefais erioed far banana o siop Grimsby. Ychydig o wythnosau wedyn fe'i clywais i hi’n dweud yr hanes wrth Mrs White. Dywedodd eu bod yn ymwneud â nwydau annaturiol. Meddyliais fod hyn yn golygu eu bod nhw’n rhoi cemegau yn eu fferins. Dringodd Fy Mam a minnau nes oedd y dref yn bell i ffwrdd a chyrhaeddom y garreg gofeb reit ar y top. Roedd y gwynt yn gryf iawn ac roedd yn rhaid i Fy Mam wisgo pinnau ychwanegol i ddal ei het. Gwisgai sgarff am ei phen fel arfer, ond nid ar y Sul. Eisteddodd y ddwy ohonom ar waelod y garreg a diolchodd i’r Arglwydd am i ni allu dringo i fyny. Wedyn siaradodd yn ddifyfyr ar natur y byd, ffolineb ei bobl, a llid anochel Duw. Ar ôl hynny, adroddodd stori am berson dewr a oedd yn casáu chwant y cnawd ac wedi mynd i weithio i’r Arglwydd yn lle. Roedd stori am swîp ddychweledig, dyn brwnt a budr, un a feddwai ac a wnâi pob drygioni, ond a ddaeth o hyd i’r Arglwydd wrth grafu perfeddion ffliw. Arhosodd mewn perlewyg yn y ffliw am gyhyd, nes bod ei ffrindiau yn meddwl ei fod yn anymwybodol. Ar ôl cryn drafferth fe lwyddon nhw i’w ddarbwyllo i ddod allan; er nad oedd ei wyneb yn gwbl weladwy oherwydd y baw, yn ôl eu tystiolaeth hwy, fe sgleiniai fel wyneb angel. Dechreuodd arwain yr Ysgol Sul a bu farw rai blynyddoedd wedyn, yn sicr o’i ogoniant. Roedd llawer mwy; roeddwn i yn arbennig o hoff o’r ‘Cawr Haleliwia’, rhyfeddod natur, wyth troedfedd o daldra a shrinciodd i chwe throedfedd a thair modfedd diolch i weddïau’r ffyddlon. Bob hyn a hyn hoffai Fy Mam ddweud hanes ei thröedigaeth ei hun wrthyf; roedd yn rhamantus iawn. Byddaf yn meddwl weithiau petai polisi golygyddol Mills and Boon yn efengylaidd byddai Fy Mam yn seren. Un noson, trwy ddamwain, cerddasai Fy Mam i mewn i Grwsâd Gogoniant y Parchedig Spratt. Roedd mewn pabell ar ryw dir comin, a phob nos byddai’r Parchedig Spratt yn siarad am dynged y damnedig, ac yn perfformio gwyrthiau iachaol. Roedd o’n creu argraff. Dywedai Fy Mam ei fod yn edrych fel Errol Flynn, ond yn sanctaidd. Daeth llawer o ferched o hyd i’r Arglwydd yr wythnos honno. Roedd rhan o garisma’r Parchedig Spratt yn deillio o’r amser a dreuliodd fel rheolwr marchnata Gwaith Haearn Rathbone. Fe wyddai beth oedd abwyd. ‘Does dim byd yn bod ar abwyd,’ meddai, pan ofynnodd y Chronicle iddo yn sinigaidd pam y byddai’n rhoi planhigyn mewn potyn i ddychweledigion newydd. ’Rydym wedi ein galw i fod yn Bysgotwyr Dynion.’ Pan glywodd Fy Mam yr alwad, cyflwynwyd copi o’r Salmau iddi a gofynnwyd iddi ddewis rhwng Cactus Nadolig (heb flodau) a Lili of the Fali. Dewisodd y Lili of the Fali. Pan aeth fy nhad y noson wedyn, dywedodd wrtho am ddewis y cactus, ond erbyn iddo gyrraedd y tu blaen roeddynt i gyd wedi mynd. ‘Dydi o ddim yn un am wthio’i hun,’ dywedai’n aml, ac ar ôl oedi ychydig, ‘Bendith arno.’ Daeth y Parchedig Spratt i aros gyda nhw am weddill ei amser ar y Crwsâd Gogoniant, a dyna phryd y gwnaeth Fy Mam ddarganfod ei diddordeb parhaus mewn gwaith cenhadu. Roedd y gweinidog ei hun yn treulio’r rhan fwyaf o’i amser yn y jyngl ac mewn llefydd poeth eraill yn achub y di-Dduw. Mae gennym lun ohono wedi ei amgylchynu gan ddynion du â gwaywffyn. Mae Fy Mam yn ei gadw wrth ei gwely. Mae Fy Mam yn debyg iawn i William Blake; mae’n cael gweledigaethau a breuddwydion ac ni all ddweud y gwahaniaeth rhwng pen chwannen a brenin bob tro. Yn ffodus nid yw’n gallu peintio. Un noson aeth allan i gerdded a meddyliodd am ei bywyd ac am beth oedd yn bosib. Meddyliodd am y pethau na alla’i fod. Roedd ei hewyrth wedi bod yn actor. ‘Hamlet ardderchog,’ meddai’r Chronicle. Ond mae’r carpiau a’r rhubanau yn troi’n flynyddoedd ac wedyn mae’r blynyddoedd wedi mynd. Bu farw Yncl Wil yn dlotyn, doedd hi ddim yn ifanc erbyn hyn a doedd pobl ddim yn garedig. Hoffai siarad Ffrangeg a chanu’r piano, ond beth olygai’r pethau hyn? Un tro roedd tywysoges arbennig a thlws, roedd hi mor deimladwy fel y byddai marwolaeth pryfyn yn peri gofid iddi am wythnosau lawer. Ni wyddai ei theulu am unrhyw ffordd o ddatrys y peth. Gwasgai’r cynghorwyr eu dwylo, ysgwydai gwŷr doeth eu pennau a gadawodd brenhinoedd dewr yn anfodlon. Felly y bu am flynyddoedd, ond un diwrnod, wrth gerdded yn y goedwig, daeth y dywysoges at gwt gwargrwm a wyddai gyfrinion hud a lledrith. Gwelodd y creadur hynafol fod y dywysoges yn ddynes o egni mawr a dyfeisgarwch. ‘Fy anwylyd,’ meddai, ‘rwyt mewn perygl o gael dy losgi gan dy fflam dy hun.’ Dywedodd y gwargrwm wrth y dywysoges a’i bod yn hen, ac yn dymuno marw, ond na allai wneud hynny oherwydd ei dyletswyddau niferus. Roedd pentref bychan o bobl gyffredin dan ei gofal, ac roedd hi’n gynghorwr ac yn ffrind iddynt. Efallai yr hoffai’r dywysoges gymryd yr awenau. Dyma fydda’r dyletswyddau: 1. Godro’r geifr 2. Addysgu’r bobl 3. Cyfansoddi caneuon ar gyfer eu gŵyl I’w chynorthwyo byddai ganddi stôl deir coes a’r holl lyfrau a feddai’r gwargrwm. Gorau oll, câi harmoniwm yr hen ddynes, sef offeryn hynafol iawn â phedwar wythawd. Cytunodd y dywysoges i aros ac anghofiodd am y palas a’r gwyfynod. Diolchodd yr hen ddynes iddi, a bu farw yn syth. Y noson honno, pan oedd allan yn cerdded, cafodd Fy Mam freuddwyd y byddai’n ei gynnal yng ngolau’r dydd. Byddai’n cael gafael ar blentyn, yn ei hyfforddi, ei fowldio, ac yn ei gyflwyno i’r Arglwydd: plentyn y Genhadaeth gwas i Dduw bendith Ac felly y bu ar ddiwrnod neilltuol, peth amser yn ddiweddarach, dilynodd seren nes i honno aros uwchben cartref plant amddifad, ac yn y lle hwnnw roedd crud, ac yn y crud hwnnw, plentyn. Plentyn â gormod o wallt. Dywedodd, ‘Rhodd gan yr Arglwydd imi yw’r plentyn hwn.’ Aeth â’r plentyn ymaith â hi ac am saith niwrnod a saith noson bu’r plentyn yn llefain yn uchel, oherwydd ofn a diffyg dealltwriaeth. Canodd y fam i’r plentyn, a thrywanodd y cythreuliaid. Deallai pa mor eiddig o’r cnawd yw’r Ysbryd. Cnawd mor gynnes a thyner. Ei chnawd hi rŵan, wedi neidio o’i phen hi. Ei gweledigaeth. Nid yr ysgytwad o dan asgwrn y glun, ond dŵr a’r gair. Roedd ganddi ddihangfa rŵan, am flynyddoedd a blynyddoedd i ddod. Safon ni ar y bryn a dywedodd Fy Mam, ‘Mae’r byd hwn yn llawn pechod.’ Safon ni ar y bryn a dywedodd Fy Mam, ‘Gelli di newid y byd.’ Pan gyrhaeddom gartref roedd fy nhad yn gwylio’r teledu. Yr ornest rhwng ‘Williams y Gwasgwr’ a’r un lygeidiog Jonney Stott. Roedd Fy Mam yn gandryll; roedd y teledu o dan orchudd ar y Sul. Cawsom liain bwrdd GWEITHREDOEDD YR HEN DESTAMENT gan ddyn a oedd yn gwagio tai. Roedd yn grand iawn, ac fe’i cedwid mewn drôr arbennig gyda dim byd arall ond darn o wydr Tiffany a pheth memrwn o Libanus. Wn i ddim pam y cedwid y memrwn. Roeddem wedi meddwl mai darn o’r Hen Destament oedd o, ond prydles fferm ddefaid ydi o go iawn. ‘Doedd fy nhad ddim hyd yn oed wedi plygu’r lliain, a gallwn weld ‘Moses yn Derbyn y Deg Gorchymyn’, jyst, mewn tomen o dan y plyg fertigol. ‘Bydd lle,’ meddyliais, a chyhoeddais fy mwriad i fynd i le’r Byddin yr Iachawdwriaeth i gael gwers tambwrîn. Dad druan, ‘doedd o byth cweit yn ddigon da. Y noson honno yn yr eglwys, cawsom ŵr gwadd, y Parchedig Finch o Stockport. Roedd yn arbenigo ar gythreuliaid, a rhoddodd bregeth frawychus ar ba mor hawdd yw cael eich meddiannu gan gythreuliaid. Roeddem ni i gyd yn teimlo yn anesmwyth iawn wedyn. Dywedodd Mrs White ei bod o’r farn fod ei phobl drws nesaf wedi eu meddiannu, mwy na thebyg; roedd yr arwyddion i gyd yno. Dywedodd y Parchedig Finch fod y rhai sydd wedi eu meddiannu yn dueddol o wylltio’n afreolus, cael pyliau o chwerthin gwyllt, a’u bod wastad, wastad, yn gyfrwys. Fe’n hatgoffodd y gallai’r Diafol ei hun ddod ar ffurf angel y goleuni. Ar ôl y gwasanaeth roeddem yn cael gweld; roedd Fy Mam wedi gwneud ugain treiffl, a’i thomen arferol o frechdanau caws a nionyn. ‘Mi allwch adnabod dynes dda oddi ar ei brechdanau,’ cyhoeddodd y Parchedig Finch. Cochodd Fy Mam. Wedyn trodd gan ddweud, ‘Beth ydi dy oedran di, ngeneth i?’ ‘Saith,’atebais. ‘A! Saith,’ mwmiodd. ‘Bendithiol iawn, saith niwrnod y creu, y ganhwyllbren saith braich, y saith ‘seal’.’ (Saith ‘seal’? ‘Doeddwn i ddim eto wedi cyrraedd Llyfr y Datguddiad yn fy nghwrs darllen dan gyfarwyddyd, a rown yn credu mai’r hyn a oedd ganddo mewn golwg oedd rhyw amffibiaid yn yr Hen Destament nad oeddwn wedi sylwi arnynt. Treuliais wythnosau’n chwilio amdanynt rhag ofn iddynt godi’n gwestiwn yn y cwis.) ‘Ia,’ aeth yn ei flaen, ‘bendithiol iawn,’ yna crychodd ei aeliau. ‘Ond am felltigedig.’ Ar y gair, trawodd ei ddwrn ar y bwrdd gan lansio brechdan gaws i’r bag casgliad; fe’i gwelais yn digwydd, ond roeddwn wedi fy nrysu cymaint anghofiais ddweud wrth rywun. Cawsant hyd iddo'r wythnos wedyn, yn ystod cyfarfod y Chwaeroliaeth. Disgynnodd tawelwch dros y bwrdd cyfan, oni bai am Mrs Rothwell a oedd yn gwbl fyddar ac yn llwglyd iawn. ‘Gall cythraul ddychwelyd SEITHBLYG.’ Crwydrodd ei lygaid o gwmpas y bwrdd. (Gwnaeth llwy Mrs Rothwell sŵn crafu.) ‘SEITHBLYG’ (‘Oes rhywun eisiau’r darn yma o gacen? gofynnodd Mrs Rothwell) ‘Gall y gorau newid a bod y gwaethaf,’ gafaelodd yn fy llaw – ‘Y plentyn diniwed yma, blodeuyn y Cyfamod.’ ‘Wel, mi wna’i ei fwyta felly,’ cyhoeddodd Mrs Rothwell. Rhythodd y Parchedig Finch arni ond nid oedd o yn un am gael ei daflu oddi ar ei echel. ‘Gallai’r lili fach hon ei hun fod yn bla o gythreuliaid.’ ‘Ew, ara’ deg, Roy,’ meddai Mrs Finch yn ofidus. ‘Paid â thorri ar fy nhraws, Grace,’ meddai’n gadarn, ‘dyma esiampl yn unig. Mae Duw wedi rhoi cyfle i mi, ac ni ddylem wastraffu beth a gawn gan Dduw. ‘Mae’r dynion mwyaf sanctaidd wedi cael eu llenwi’n sydyn â drygioni cyn hyn a chymaint mwy i ferched, a chymaint mwy o blant. Rhieni, gwyliwch eich plant am arwyddion. Wŷr, gwyliwch eich gwragedd. Bendigedig bydded enw’r Arglwydd.’ Gollyngodd fy llaw a oedd erbyn hyn yn grychlyd a thamp. Sychodd ei law ei hun ar goes ei drowsus. ‘Ddylet ti ddim blino dy hun fel ’na, Roy’, meddai Mrs Finch, ‘cymera dreiffl, ma’ ’na sheri ynddo fo.’ Teimlwn innau ychydig yn anghyfforddus felly es i’r Ystafell Ysgol Sul. Roedd yno Fuzzy Felt i wneud golygfeydd o’r Beibl, ac roeddwn yn dechrau mwynhau ail ddehongli stori Daniel yn ffau’r llewod pan ymddangosodd y Parchedig Finch. Rhoddais fy nwylo yn fy mhoced ac edrych ar y leino. ‘Ngeneth i,’ dechreuodd, wedyn gwelodd y Fuzzy Felt. ‘Be’ ydi hwnna?’ ‘Daniel,’ atebais. ‘Ond dydi o ddim yn gywir,’ meddai mewn dychryn. ‘Wyddost ti ddim bod Daniel wedi dianc? Yn dy lun di mae’r llewod yn ei lyncu.’ ‘Sori,’ atebais, yn gwisgo fy wyneb sanctaidd gorau. ‘Rown i eisiau gwneud Jona a’r morfil, ond does na ddim morfilod mewn Fuzzy Felt. Dw i’n smalio mai morfilod ydi’r llewod yna.’ ‘Mi ddywedaist ti mai Daniel oedd o.’ Roedd o’n amheus. ‘Nes i ddrysu.’ Gwenodd. ‘Beth am ei wneud yn iawn, ia?’ Ac ailosododd y llewod mewn cornel, a Daniel yn y llall. ‘Beth am Nebuchodonosor? Beth am wneud golygfa’r Syndod Gyda’r Wawr nesa’.’ Dechreuodd chwilota am frenin ymhlith y Fuzzy Felt. ‘Dim gobaith,’ meddyliais, bu Susan Green yn sâl ar olygfa’r Tri Brenin Doeth adeg y Dolig, a dim ond tri brenin gewch chi mewn bocs. Gadewais o yno’n chwilio. Pan es yn ôl i’r neuadd gofynnodd rhywun a oeddwn i wedi gweld Gweinidog Finch. ‘Mae o yn yr Ystafell Ysgol Sul yn chwarae efo’r Fuzzy Felt atebais. ‘Paid â bod yn wamal Jeanette,’ dywedodd y llais. Edrychais i fyny. Miss Jewsbury oedd yno; roedd hi bob tro’n siarad fel yna, oherwydd iddi ddysgu’r obo dwi’n meddwl. Mae’n gwneud rhywbeth i’ch ceg. ‘Amser i ni fynd adref,’ meddai Fy Mam. ‘Dw i’n meddwl dy fod di wedi cael digon o gyffro am un diwrnod.’ Rhyfedd yw’r pethau mae pobol eraill yn ei ystyried yn gyffro. Dyma ni’n cychwyn am adref, Fy Mam, Alys a Mai (‘Anti Alys, Anti Mai, i chdi’). Roeddwn yn llusgo tu ôl iddynt, yn meddwl am y Parchedig Finch a pha mor annymunol oedd o. Roedd ei ddannedd yn sticio allan, ac roedd ei lais yn wichlyd, er iddo geisio swnio’n ddwfn a llym. Druan â Mrs Finch. Sut oedd hi’n byw efo fo? Wedyn cofiais am y sipsi. ‘Phriodi di fyth.’ Efallai nad oedd hynny’n ddrwg o beth wedi’r cyfan. Cerddom ar hyd Stryd y Ffatri i gyrraedd adref. Y bobol dlotaf un oedd yn byw yno, yn gaeth i’r melinau. Roedd yno gannoedd o blant a chŵn main. Roedd y bobl Drws Nesaf yn arfer byw yno, reit drws nesaf i’r gwaith glud, ond gadawodd cefnder, neu rywun, dŷ iddynt, drws nesaf i’n tŷ ni. ‘Gwaith y Diafol, os gwelais erioed,’ dywedodd Fy Mam, a gredai o hyd fod y pethau hyn wedi eu gyrru’n brawf i ni. Ni chawn gerdded ar hyd Stryd y Ffatri fy hun, a’r noson honno wrth iddi ddechrau bwrw glaw, roeddwn yn siŵr mod i’n gwybod pam. Oes oedd y cythreuliaid yn byw yn unman fan hyn oedd hi. Aethom heibio’r siop a werthai goleri atal chwain a gwenwyn. Ei enw oedd Siop Fermin Arkwright; roeddwn wedi bod tu mewn un waith, pan gawsom ni bla o chwilod. Roedd Mrs Arkwright yn sgwario’r arian yn y til; gwelodd Mai wrth i ni basio a gwaeddodd arni i ddod i mewn. ‘Doedd Fy Mam ddim yn hapus iawn, ond wrth fwmian rhywbeth am Iesu yn ymwneud â chasglwyr treth a phechaduriaid fe wthiodd mi i mewn, o’u blaen nhw i gyd. ‘Lle ti di bod, Mai?.’ gofynnodd Mrs Arkwright, gan sychu ei llaw ar gadach llestri, ‘heb weld lliw na llun ohonot ti ers mis.’ ‘Dwi wedi bod yn Blackpool.’ ‘Ho, gest ti afael ar ‘chydig o bres, do?’ ‘Bingo, howsi howsi dair gwaith.’ ‘Na.’ Roedd Mrs Arkwright yn edmygus ac yn flin, fel ei gilydd. Aeth y sgwrs yn ei blaen fel hyn am beth amser, Mrs Arkwright yn cwyno bod busnes yn ddrwg, y buasai raid iddi gau’r siop, nad oedd pres i’w wneud mewn pryfetach rhagor.’ ‘Gobeithio cawn ni ha’ poeth, mi ddaw hynna a nhw allan.’ Roedd Fy Mam yn amlwg wedi ypsetio. ‘Cofio’r pwl poeth iawn ddwy flynedd yn ôl? Ew, mi oedd busnes yn dda adeg honno. Chwilod duon, chwilod cefnau caled, llygod mawr, beth bynnag oedd o mi nes ei wenwyno. Na, ‘dydi pethau ddim ‘run fath rŵan.’ Arhosom yn barchus dawel am eiliad neu ddau, yna pesychodd Fy Mam a dweud ei bod yn amser i ni symud. ‘Cym rhein, ’ta,’ meddai Mrs Arkwright, ‘dos â rhein i’r beth bach, ia.’ Y fi roedd hi’n ei olygu, ac ymbalfalodd yn rhywle tu ôl i’r cownter a thynnu allan ychydig o duniau gwahanol siapiau. ‘Geith hi gadw ei marblis a ballu ynddyn nhw, ’de,' esboniodd. ‘Diolch,’ dywedais a gwenais arni. ‘Ew, hen ogan iawn ydi hi, wsti,’ gwenodd hi arna i, a sychu ei llaw yn solet ar fy llaw i, a’n gadael ni allan o’r siop. ‘Edrychwch ar rain Mai,’ codais i nhw i fyny. ‘Anti Mai,’ arthiodd Fy Mam. Edrychodd Mai arnyn nhw gyda mi. ‘Pryfedarian’, darllenodd. ‘Gwasgarwch yn hael tu ôl i sinciau, toiledau a llefydd tamp eraill,” O, neis iawn. Be’ ydi hwn: “Llau, byg gwely, ayyb. Effeithiolrwydd sicr, neu’ch pres yn ôl.”’ Yn y diwedd fe gyrhaeddom adref, Nos da Mai, Nos da Alys, bendith Duw arnoch.’ Roedd fy nhad wedi mynd i’w wely’n barod achos roedd yn gweithio shifftiau cynnar. Ni fyddai Fy Mam yn mynd i’w gwely am oriau. Ers i mi eu hadnabod, mae Fy Mam wedi mynd i’w gwely am bedwar, ac mae fy nhad wedi codi am bump. Roedd hynny’n eithaf braf mewn ffordd achos gallwn fynd i lawr yn y nos a pheidio bod yn unig. Yn aml byddem yn cael bacwn ac wy a bydda hi’n darllen ychydig o’r Beibl i mi. Dyma sut y dechreuais fy addysg: fe’m dysgodd i ddarllen gyda Llyfr Diwteronomiwm, ac adrodd hanes yr holl seintiau wrthyf, sut yr oeddynt i gyd yn ddrygionus ac yn tueddu at ddyheadau na feiddient eu henwi. Doedden nhw ddim yn ffit i’w haddoli; dyma heresi arall gan yr Eglwys Gatholig, ac nid oeddwn i gael fy ngham-arwain gan offeiriaid huawdl. ‘Ond dwi byth yn gweld unrhyw offeiriaid.’ ‘Arwyddair pob merch yw BYDD BAROD.’ Dysgais ei bod yn bwrw glaw pan fydd cymylau yn taro adeilad uchel, fel tyrau, neu gadeirlan; mae’r gwrthdrawiad yn eu tyllu, ac wedyn mae pawb oddi tanynt yn gwlychu. Dyma pam, yn yr hen ddyddiau, mai’r adeiladau sanctaidd oedd yr unig adeiladau tal, a byddai pobl yn dweud fod glanweithdra'r peth agosaf at fod yn dduwiol. Po fwyaf duwiol oedd eich tref, po dalaf yr adeiladau, a mwya’n byd o law a gaech. ‘Dyna pam fod y llefydd Paganaidd ’ma mor sych,’ esboniodd Fy Mam, wedyn edrychodd i’r gwagle a chrynodd ei phensil. ‘y Parchedig Spratt druan.’ Dysgais fod popeth yn y byd naturiol yn symbol o’r Frwydr Fawr rhwng da a drwg. ‘Meddylia am y mamba,’ meddai Fy Mam. ‘Dros bellter byr gall y mamba symud yn gynt na cheffyl.’ A thynnodd lun y ras ar bapur. Ergyd y stori oedd bod drygioni’n gallu llwyddo yn y tymor byr, ond nid yn yr hirdymor. Roeddem yn falch iawn, ac fe ganom ein hoff emyn, Nac Ildia I Demtasiwn. Gofynnais i Fy Mam ddysgu Ffrangeg i mi, ond tywyllodd ei hwyneb, a dywedodd na allai. ‘Pam ddim?’ ‘Bu bron â fy ninistrio.’ ‘Be yda chi’n ei feddwl?’ pwyswn arni, pryd bynnag a chawn gyfle. Ond byddai’n ysgwyd ei phen ac yn mwmian rhywbeth ynglŷn â fy mod yn rhy ifanc, y buaswn yn dod i wybod yn ddigon buan, ei fod yn annymunol. ‘Un diwrnod,’ dywedodd, o’r diwedd, ‘mi ddyweda i wrthyt ti am Pierre,’ yna troes y radio ymlaen ac anwybyddodd fi gyhyd nes i mi fynd yn ôl i fy ngwely. Yn aml, byddai’n dechrau stori ac yn mynd ymlaen rywbeth arall ei chanol, felly ni chefais wybod beth ddigwyddodd i’r Baradwys Ddaearol wedi iddo beidio â bod ar arfordir gorllewinol India, ac roeddwn yn sownd ar ‘chwe saith yn bedwardeg dau’ am bron i wythnos. ‘Pam nad ydw i’n mynd i’r ysgol?’ gofynnais iddi. Roeddwn yn chwilfrydig am yr ysgol oherwydd byddai Fy Mam yn ei alw’n Iard Fridio. Doeddwn i ddim yn deall beth oedd ystyr hynny, ond mi wyddwn ei fod yn beth drwg, fel Nwydau Annaturiol. ‘Mi wnân nhw dy dynnu ar gyfeiliorn,’ oedd yr unig ateb a gawn. Meddyliwn am hyn i gyd yn y tŷ bach. Roedd y tŷ bach y tu allan, a byddwn yn casáu gorfod mynd yn ystod y nos oherwydd y pryfaid cop a fyddai’n dod drosodd o’r cwt glo. Roedd fel petai fy nhad a minnau o hyd yn y tŷ bach, fi’n eistedd ar fy nwylo yn hymian, a fynta’n sefyll, am wn i. Byddai Fy Mam yn gwylltio’n arw. ‘Tyd yn dy flaen, ‘dydi o ddim yn cymryd gymaint â hynna o amser.’ Ond fan honno oedd yr unig le i fynd. Roeddem yn rhannu’r un llofft oherwydd bod Fy Mam yn adeiladu ystafell ’molchi i ni yn y cefn ac, yn y pen draw, os codai’r pared, hanner ystafell i mi. Ond roedd hi’n gweithio’n araf iawn, oherwydd bod ganddi lawer ar ei meddwl, meddai hi. Weithiau byddai Mrs White yn dod draw i helpu hi i gymysgu’r growt, ond wedyn byddai’r ddwy yn gwrando ar Johnny Cash, neu’n ysgrifennu taflen newydd am Fedydd trwy Lwyr Ymdrochi. Fe orffennodd yn y diwedd, ond nid am dair blynedd. Yn y cyfamser, roedd fy ngwersi yn parhau, dysgais lawer am Arddwriaeth a Phlâu’r Ardd drwy’r gwlithod a chatalogau hadau Fy Mam, a datblygais ddealltwriaeth o Brosesau Hanesyddol drwy’r proffwydoliaethau yn Llyfr y Datguddiad, a chylchgrawn The Plain Truth, a gai Fy Mam yn wythnosol. ‘Mae Elijah yn ein plith eto,’ cyhoeddodd. Felly dysgais i ddehongli’r arwyddion a’r rhyfeddodau na fyddai’r anghrediniwr, efallai, fyth yn ei ddeall. ‘Bydd angen i ti eu dehongli nhw’n iawn pan fyddi allan ar y maes cenhadu,’ cefais fy atgoffa. Yna, un bore, roeddem wedi codi’n gynnar i wrando ar Ivan Popov o du ôl i’r Llen Haearn, pan syrthiodd amlen frown dew drwy’r blwch post. Roedd Fy Mam yn meddwl mai llythyrau diolch oeddynt, gan y bobl a ddaeth i Grwsâd Iacháu’r Cleifion yn neuadd y dref. Rhwygodd hwy ar agor agored, yna disgynnodd ei hwyneb. ‘Be’ ydi o?’ gofynnais iddi. ‘Mae o amdanat ti.’ ‘Be’ sy’ amdana’i?’ ‘Mae’n rhaid i mi dy yrru i’r ysgol.’ Sgrialais i’r tŷ bach ac eisteddais ar fy nwylo; yr Iard Fridio o’r diwedd. |