Crydd Bow Street
|
Crogai’r arwydd Llywelyn Prys & Sons yn beryglus uwch ben drws y siop wrth i’r gwynt a’r glaw ei chwipio i bob cyfeiriad. Rhuthrodd Mrs Owen drwy’r drws cyn gynted ag y gallai a chlywodd Myra Llywelyn Prys dincial y gloch wrth i’r cwsmer diweddaraf ddod i’r siop. Roedd y siop ei hun yn weddol fychan gyda’r cownter ar yr ochr bellaf yn llenwi’r rhan fwyaf o’r siop. Y tu ôl i’r cownter roedd rhesi o silffoedd gyda bocsys o esgidiau wedi eu pentyrru’n daclus.
‘Wel, am dywydd ofnadwy!’ Ebychodd Mrs Owen wrth ysgwyd y gwaethaf o’r perlau gwlyb oddi arni. Cytunodd Myra gyda golwg yn llawn cydymdeimlad cyn mynd ati i nôl yr esgidiau o’r sil y tu ôl iddi. Y tu ôl i’r cownter roedd drws a arweiniai at goridor cul. Ar un pen i’r coridor roedd grisiau i’r fflat uwch ben y siop ac ar yr ochr arall roedd y drws i’r gweithdy. Yng nghefn y siop, yn y gweithdy, roedd Dafydd John Llywelyn Prys yn mynd ati’n dawel gyda’i waith yn rhoi gwadnau newydd ar y pâr diweddaraf o esgidiau. Roedd offer o bob maint dros wyneb yr hen fainc bren. Mainc ei hen daid, ei daid a’i dad. Wrth ymyl y fainc roedd stôl deircoes lle eisteddai Dafydd i wneud ei waith. O amgylch ei draed roedd tameidiau gwastraff o ledr a phren. Roedd ei ddwylo’n arw fel mae dwylo unrhyw un yn mynd ar ôl blynyddoedd o waith. Roedd yn ddyn eithaf eiddil yr olwg gyda gwallt brown lliw mês ond roedd awgrym ei fod yn dechrau britho ychydig o amgylch ei glustiau. Roedd llygaid glas disglair ganddo. Roedd ei lygaid fel petaen nhw wastad yn chwerthin ers talwm ond bellach rychau oedd o amgylch llygaid Dafydd a rheiny’n dangos fod unrhyw awgrym o chwerthin wedi hen fynd. Rhwng trawiadau ei forthwyl roedd yn gallu clywed trafodaeth Mrs Owen â’i wraig: ‘Y Gweinidog wedi methu dau gyfarfod nawr, dau! Ac roeddwn yn siarad â Mrs Huws yn siop y cigydd ac fe ddywedodd hi wrth ŵr ei chymydog iddi weld y Gweinidog yn dod o’r dafarn nos Wener!’ Rowliodd Dafydd ei lygaid yn ddiamynedd. Roedd hi’n amhosib cuddio unrhyw beth yn y pentre’ yma a’r hyn a’i gwylltiai’n fwy na dim oedd parodrwydd ei wraig i hel clecs gyda phob Tom, Dic a Harri a ddeuai i’r siop. ‘Efallai mai hyn yw fy nghosb gan Dduw,’ meddyliodd yn chwerw wrtho’i hun. ‘Gwaith caled trwy’r dydd bob dydd i gynnal hon a’i hel straeon.’ Aeth ati i daro’n galetach gyda’i forthwyl i foddi’r clebran pan glywodd rywbeth a wnaeth i’w waed rewi. ‘Yr hen sipsiwn budr 'na 'di dod yn eu holau wyddoch chi Myra.’ Na, meddyliodd Dafydd, na does dim posib … * * * Dim ond deunaw oed oedd Dafydd a Myra pan briodasant. Er syndod i bawb fe wnaethant ar y slei ar ôl carwriaeth annaturiol o fyr, felly wrth gwrs daeth pawb i’r casgliad yn sydyn iawn ei bod hi’n feichiog, ond ar ôl naw mis a dim golwg o’r un fechan fe newidiodd y diwn. ’Roeddwn i’n gwybod o’r dechrau mai priodi gan eu bod nhw’n caru ei gilydd oedden nhw,’ oedd i’w glywed mewn amryw o sgyrsiau ledled tref Aberystwyth. Ond yn ddiarwybod i bawb fe wnaeth y pâr ifanc orfod priodi gan fod Myra yn feichiog ond ar ôl y noson dyngedfennol honno pan ddeffrodd gyda’r boen fwyaf aruthrol a gweld fod y gwely wedi llenwi â gwaed, fe newidiodd popeth. Cyn hyn bu Dafydd yn ŵr caredig a chlên a wnâi bopeth i’w wraig newydd. Roedd wedi dotio gyda hi. Roedd hi’n ferch mor dlws, gyda’i gwallt golau a’i llygaid gwyrdd lliw coed pîn. Hi oedd y ferch y breuddwydiai bechgyn y dref amdani ac wrth gwrs, roedd hi’n feichiog gyda’i blentyn ef. Byddai ganddo rywun i gymryd y siop pan âi yn rhy hen fel y gwnaeth ef i’w dad. Yn anffodus, breuddwyd byrhoedlog oedd hwn ac ar ôl i Myra golli’r babi gwelodd newid yn ei gŵr. Roedd yn gwrtais gyda hi wrth gwrs, ond ar ôl cael gwybod nad oedd Myra’n gallu cael plant newidiodd y teimladau cariadus tuag ati yn deimladau o ddicter. Roedd Myra serch hyn dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad ag ef a gobeithiai mai galaru am eu plentyn yr oedd ef ac y byddai ei Dafydd cariadus hi’n dychwelyd ati ryw ddydd. Yn y trydydd haf ar ôl iddynt briodi y daeth y sipsiwn i’r ardal am y tro cyntaf. Tua’r un adeg dechreuodd Dafydd fynd i gerdded am yn hir ar ôl iddo orffen ei waith yn y siop gyda’r nos. Roedd Myra’n poeni’n ofnadwy amdano, yn enwedig am iddi golli ei hail blentyn wythnosau ynghynt. Roedd hi’n gobeithio y byddai’r cerdded yn helpu i glirio meddwl Dafydd ac felly roedd yn teimlo ei bod hi’n well iddi adael llonydd iddo am y tro. Roedd cerdded Dafydd wedi dechrau fel rhywbeth digon diniwed. Ar ôl y siom o golli plentyn arall nid oedd yn gallu dioddef treulio gormod o amser yn y tŷ yn enwedig gyda’r holl bobl yn dod i gydymdeimlo ac i edrych am Myra. Roedd y lle yn teimlo gormod fel syrcas. Roedd Dafydd yn hoff o’r haf; hoffai’r nosweithiau hir pan fyddai’r haul yn troi’n artist ac yn peintio’r awyr yn oren ac yn goch. Ar y noson arbennig hon ymddangosai’r haul fel ei fod yn cael ei frwsys yn barod ar gyfer ei gampwaith nesaf ac roedd awel ysgafn yn creu siffrwd yn y coed ac yng nglaswellt y cae a oedd yn cyrraedd hyd at ei bengliniau. Wrth ddringo’n ofalus dros giât a wahanai ddau gae gwelodd siâp merch ym mhen pella’r cae. Gallai ddweud yn syth nad oedd hi’n ferch frodorol o’r ardal ac wrth iddo agosáu roedd y gwahaniaethau yn dod yn fwy ac yn fwy amlwg. Roedd ganddi wallt mor ddu â phlu cigfran ac roedd yn cyrraedd hyd at ei chanol. Roedd ei llygaid yn dywyll ac yn wyllt yr olwg. Roedd hi mor wahanol i Myra, oedd â phryd a gwedd golau. Roedd y ferch o’i flaen yn y cae yn edrych mor wyllt ond eto, hi oedd y ferch brydferthaf a welodd Dafydd erioed. ‘Beth yw dy enw di?’ Daeth y geiriau o’i geg cyn iddo ddeall ei fod wedi eu dweud. ‘Sera,’ meddai hithau â golwg chwilfrydig ar ei hwyneb. Edrychai’r llygaid tywyll yn ddwys arno. Roedd Dafydd bron â marw eisiau gofyn mwy iddi ond roedd wedi ei daro’n fud fel petai rhyw felltith arno. Yna chwarddodd Sera’n uchel, rhoddodd wên slei iddo cyn troi ar ei sawdl a diflannu i’r coed. Bu Dafydd yn sefyll yn stond wedyn am yn hir iawn. Ai breuddwyd oedd y ferch? Ond cofiodd am ei chwerthin uchel a’i llygaid tywyll. Roedd pob awgrym o liw wedi gadael yr awyr erbyn iddo droi am adref ac ni chlywodd unrhyw air o ffrae Myra wedi iddo gyrraedd yn ôl i’r tŷ. Aeth yn syth i’w wely a breuddwydio am y ferch yn y cae. Roedd Dafydd yn dychwelyd i’r cae bob nos i geisio cael cip arall ar Sera ond aeth wythnos heibio heb sôn amdani. Yn y cyfnod yma roedd Dafydd yn mynd o’i gof. Nid oedd yn gallu cysgu gan ei bod hi ar ei feddwl. Roedd yn rhaid iddo ei gweld hi eto. Ar ôl wythnos arall heb ei gweld penderfynodd Dafydd ei fod wedi cael digon. Wedi ei dychmygu hi roedd o mae’n rhaid. Ie, y pwysau o redeg siop a cholli plentyn arall wedi mynd yn drech nag ef. Aeth ati gyda’i waith yn teimlo’n ysgafnach ar ôl hynny. Roedd yr haf yn adeg eithaf prysur gyda’r holl blant yn gwisgo eu hesgidiau’n dwll wrth chwarae y tu allan bob dydd. Roedd ar fin gorffen am y diwrnod pan glywodd dincial y gloch. Ychydig yn hwyr i gwsmer gyrraedd, meddyliodd a dechreuodd gerdded i flaen y siop pan glywodd lais ei wraig: ‘Rhag dy gywilydd di’n dod yma, tydan ni ddim angen dy fusnes di na dy debyg.’ Bu bron i Dafydd lewygu pan welodd y pâr o lygaid tywyll yn llawn malais yn syllu ar ei wraig. Rhoddodd ei galon naid wrth iddo sylweddoli nad breuddwyd oedd hi wedi’r cyfan. ‘Cer di adre’Myra,’ meddai Dafydd yn dawel wrth ei wraig. ‘Mi wna i ddelio gyda hi.’ ‘Gwna yn siŵr dy fod yn galw’r heddwas yma,’ meddai Myra. ‘Duw a ŵyr be’ ma’ hi a’i theip wedi bod yn dwyn.’ Rhoddodd un olwg fileinig arall i Sera cyn cerdded yn ffroenuchel o’r siop. ‘Mae’n ddrwg gen i...’ dechreuodd Dafydd cyn i Sera dorri ar ei draws, ‘Paid, ’dw i 'di hen arfer erbyn hyn. Yr un hen stori ym mhob lle,’ meddai’n chwerw. Nid oedd gan Sera lawer o feddwl o Dafydd i ddechrau. Roedd hi wedi cyfarfod â'i deip o’r blaen ac roedd hi’n gwybod yn union sut i wneud iddyn nhw ddisgyn mewn cariad â hi. Roedd rhagrith yn rhywbeth na allai ddianc rhagddo ond nid oedd erioed wedi dioddef y fath sarhad. Roedd hi eisiau codi gymaint o gywilydd ar y wraig ag y gallai ac os oedd yn rhaid iddi gysgu gyda’r llipryn gŵr yna i ddial ar y bitsh fach, dyna fyddai’n ei wneud. Roedd yn rhaid iddi fod yn ofalus; roedd yn rhaid iddyn nhw gael eu dal ar yr amser iawn. Penderfynodd ei gyfarfod bob nos wrth iddo gerdded heibio; dim byd rhy flaengar i ddechrau, siarad yn hamddenol ond dangos digon o ddiddordeb fel ei fod yn dod yn ôl bob nos. Yn araf bu’n dechrau gwneud awgrymiadau; byddai’n cyffwrdd ei fraich wrth iddo siarad neu yn symud ei hun fel ei bod hi’n sefyll yn boenus o agos ato nes iddi weld yr awydd yn llosgi’n goch yn ei lygaid glas. Wrth i Dafydd ddisgyn yn ddyfnach ac yn ddyfnach mewn cariad â Sera, roedd Myra’n colli mwy a mwy o’i phwyll. Roedd Dafydd yn edrych drwyddi bob tro y gwelai hi, prin yn gwrando arni, byth yn siarad â hi oni bai i ofyn am fwyd. Gwyddai Myra fod merch arall ym mywyd Dafydd ond y cwestiwn oedd pwy? Roedd hi’n gallu ei harogli arno bob nos wrth iddo gyrraedd adref. Gwelai’r olwg gariadus yna yn ei lygaid, yr olwg a arferai roi iddi hi. Yn hwyr un noson cododd Dafydd a gwisgodd yn ddistaw heb smic, edrychodd ar ei wraig i wneud yn siŵr ei bod hi’n cysgu cyn gadael y tŷ. Cerddodd yn sydyn at eu man cyfarfod a dyna lle'r oedd hi, yn sefyll yn noeth yng ngolau’r lleuad lawn, ei gwallt tywyll yn erbyn ei chnawd gwyn. Gafaelodd Dafydd ynddi a’i chusanu. Roedd caru gyda Sera mor wahanol i unrhyw beth yr oedd Dafydd wedi’i brofi o’r blaen. Roedd o’n ei charu hi gyda’i holl galon a byddai’n gadael popeth ar ei chyfer hi. Wrth iddo wisgo amdano sylwodd fod Sera’n syllu i rywle ym mhen pella’r cae gyda’r un olwg faleisus yn ei llygaid â’r diwrnod hwnnw yn y siop, ond y tro yma roedd hi’n cilwenu. Trodd Dafydd i edrych yr un ffordd â hi a bu bron iddo lewygu wrth sylwi bod rhywun wedi bod yn eu gwylio, rhywun â gwallt golau, rhywun a oedd yn rhedeg nerth ei thraed yn ôl am y dref. Cododd Dafydd a dechreuodd redeg ar ei hôl hi gyda chwerthin uchel Sera yn adleisio yn ei glustiau. Roedd meddwl Myra’n mynd yn wyllt. Roedd hi eisiau dial, roedd hi eisiau lladd y ddau ohonyn nhw. Bu’n rhedeg am amser hir ac roedd yn rhaid iddi oedi i gael ei gwynt ati. Yn ddiarwybod iddi roedd hi wedi cyrraedd siop ei gŵr. Y siop a garai'n fwy na dim. Cerddodd i gefn y siop a chafodd hyd i’r allwedd sbâr o dan bot blodyn a oedd yn fwy o bot chwyn erbyn hyn. Agorodd y drws ac aeth i mewn. Cerddodd i’r blaen a gafaelodd mewn bocs o hen lampau oel. Cododd un o’r bocsys a chaeodd ei llygaid. Gwelodd Dafydd yn cusanu’r sipsiwn, CRASH, trawodd y lamp gyntaf y llawr a dechreuodd yr olew gludiog lifo o’i berfedd. Cododd y lamp nesaf a gwelodd hi’n tynnu ei grys, CRASH, fe daflodd y lamp y tro hwn. Un arall, gwelodd y ddau ohonyn nhw’n gorwedd yn noeth yn y gwair, CRASH. Bu’n taflu’r lampau nes bod y bocs yn wag ac arogl yr olew yn llosgi ei thrwyn. Daeth o hyd i focs o fatsus y tu ôl i’r cownter. Cerddodd allan o’r siop dan daflu matsien y tu ôl i’w hysgwydd. Cyrhaeddodd Dafydd mewn pryd i weld y fatsien yn taro’r llawr a’i wraig yn cerdded i ffwrdd. Safai’n hollol ddiymadferth wrth i’r fflamau ruo a llarpio siop ei dad a’i daid a’i hen daid. Roedd eisiau ei hachub, roedd eisiau gwneud rhywbeth! Ond y cyfan y gallai ei wneud oedd sefyll yno’n gwylio gydag adlewyrchiad y fflamau coch yn llosgi yn ei lygaid glas. * * * Wedi i’r holl sgandal gael ei chuddio’n daclus iawn, symudodd y ddau i Bow Street. Dyma ni, felly, yn ôl yn y presennol gyda’r ddau yn mynd ymlaen gyda’u bywydau bob dydd. Pan glywodd Dafydd eiriau Mrs Owen aeth yn syth i flaen y siop i geisio ei holi hi ymhellach. Nid yr un rhai oedd yn ôl, does bosib, meddyliodd yn wyllt. Wrth iddo gyrraedd y blaen clywodd y gloch yn tincial unwaith eto wrth i’r drws gael ei agor a cherddodd merch ifanc i’r siop. Merch tua phedair ar ddeg oed. Merch gyda gwallt hyd at ei chanol yn ddu fel plu cigfran. Merch gyda golwg faleisus yn llosgi yn ei llygaid glas. |