Y Daith
|
Pam dwi’n wahanol?
Pam dwi mor wahanol? ’Fedra’i fod fel y lleill, byth? Mae pob agwedd ar fy nghorff yn fawr – alla’i ddim byw mwy fel hyn. Does neb yn fy hoffi nac yn edrych arnaf ar noson allan. Teimlo’n llawn, teimlo’n isel a theimlo’n fawr. Ffrindiau’n cael têc-awê, gwell gen i lwgu. Pob peth yn fethiant a dim yn gwneud imi deimlo’n llai. Y drych yn adlewyrchu fy nghorff, a hwnnw fel arth fawr, fawr. Pob llun ar y gwefannau cymdeithasol a minnau’n cwestiynu – plis alla’i fod ’run maint â’r lleill? Modelau a selebs, i gyd yn faint 8, minnau’n byw mewn corff maint 18. Fegan, diglwten, llysieuwraig – Pob un diet yn fethiant. Dyw bywyd ddim yn deg! Dyw bywyd ddim gwerth ei fyw! Pam na alla’i fod fel y lleill, yn denau, yn gyfforddus, yn hapus? Pryd oedd y tro diwethaf imi fwyta? Ddeuddydd neu fwy’n ôl, siŵr. Fy mol yn gwneud synnau rhuo drwy’r dydd, ond dwi ddim am ildio. Dwi ddim am roi’r gorau iddi, dwi am barhau fel hyn – dwi am newid fy nghorff. Bob nos wrth ymyl bwrdd y gegin, mae arogl swper yn llenwi fy ffroenau, meddyliau’n troi fel chwyrli-gwgan yn fy mhen a finnau’n barod i weiddi, ‘fi’n llawn, sa’i moyn dim i fyta’. Daw y dydd pan fyddaf yn fodlon â’m corff, fy ffrindiau fydd yno i wrando yn barod i glustfeinio ond, byddaf i yn ceisio fy ngorau i wella ac i gryfhau. |