Hoffem, ar ran Adran y Gymraeg ac Astudiaethu Celtaidd, longyfarch myfyriwr yn ei drydedd flwyddyn sy’n astudio Cymraeg, ar ennill y Goron yn Eisteddfod Ryng-golegol yn Abertawe eleni. Yn wreiddiol o Chwilog, mae Gruff yn unigolyn brwdfrydig o fewn UMCA, ac yn gyfrifol am arwain corau cymysg Aelwyd Pantycelyn. Mae’n gyfeilydd ac yn arweinydd talentog. Yn ogystal ag ennill y Goron yn yr Eisteddfod, cafodd lwyddiant am ei ensemble offerynnol gydag Alun Williams, a daeth yn ail yn yr ensemble lleisiol gydag Alun a Ianto. Roedd Gruff yn gwneud rhywfaint o ysgrifennu creadigol yng Ngholeg Meirion Dwyfor, ac er nad yw erioed wedi gwneud llawer, fe ddilynodd y modiwl Ysgrifennu Creadigol yn ei ail flwyddyn yn Aberystwyth. Roedd Eurig Salisbury yn rhan hanfodol o’i ddatblygiad fel llenor, gan ddangos iddo sut i ddefnyddio hiwmor, a chanlyniad hyn oedd y darn buddugol yn y Rhyng-gol. Dyma ddetholiad o’r darn a enillodd y Goron yn yr eisteddfod Ryng-gol eleni. (Goln.)
Gruffydd yn derbyn Coron yr Eisteddfod Ryng-golegol yn Abertawe.