Cynefin
|
Pantycelyn 2016
Mae’n fedd ym Mhanty heddiw, Dan glo, ’mond co’ ydi’r ciw. Syn ac oer fel drws yn cau, Yw derw’r coridorau; Swil yw hon, mae iasol hedd, Mae eraill lle bu mawredd. Mae gwacter ac mae fferru Yma’n foel mewn fan a fu Yn gartref, yn gynefin I’r praidd ac i’r adar prin. Mor hyll yw’r ystum rhewllyd, A’r hedd sy’n gamwedd i gyd. Di-liw, di-griw a di-graidd Yw lloriau’r gwersyll oeraidd. Mudan yw’r neuadd addfwyn, Megis gardd heb chwardd na chŵyn. Pantycelyn 2019 Wedi’r loes, fe gawn groeso, A chlyw! (Ar ôl torri’i chlo), Mae’r sŵn fel miri senedd, A’r bois yn codi o’r bedd Yw geni cynta’r gwanwyn, Yno dônt fel newydd ŵyn. Mae criw, mae lliw ac mae llais Yn cwrdd mewn man lle cerddais, A’r trwst diatsain er tro A ffreutur yn ffair eto. Na, ni ddaw i’r neuadd hon Si ystryw’r lleisiau estron. Daw’r dydd yn nes wedi’r daith I’w galw’n llwythog eilwaith. |