Cawod
|
Cawsom ddyddiau o law di-baid
A’u melan yn chwalu’n hysbryd. Llefain, wylo, crio wna’r cymylau’n lleng Wrth daenu’u hwyliau drwg a’n socian. Adlewyrcha’r pyllau rhwystrol Bob wep anhapus. Boddi gwên pob dyn yn y llwydni dyfrllyd. Ond beth ddaw o’r cymylau llwydaidd, wedi’r gawod ffyrnig? Awyr glir a phelydrau’r haul a hawlia’n sylw. Chwistrelliad o fywyd newydd a chyfarchiad llon drwy’r cymylau Gobaith, a’r golau’n orchudd gwarchodol. |