Sgwrs â'r actores ac un o fyfyrwyr yr Adran, Anna Wyn Jones
|
Merch bedair ar bymtheg oed yn wreiddiol o Lanrug yw Anna. Mae hi’n wyneb yn ogystal â llais cyfarwydd iawn i ni fel Cymry ar S4C. Pan oedd hi’n un ar ddeg oed, defnyddiodd S4C lais Anna ar gyfer dwy raglen cartŵn; Cled a Teulu Mawr. Bedair blynedd yn ddiweddarach, llwyddodd i dderbyn rhan Hari ar Rownd a Rownd, a threuliodd dair blynedd ar ein sgriniau yn dilyn straeon dwys.
I ddechrau, hoffwn ddiolch i ti am gytuno i gael sgwrs â mi. Sut brofiad oedd defnyddio dy lais ar gyfer rhaglenni cartŵn plant Cleda Teulu Mawr? Roedd yn brofiad od: mae’n fy atgoffa i o gyfieithu ar y pryd, ond mi wnes i ei fwynhau oherwydd dyma oedd fy mhrofiad cyntaf o weld stiwdio recordio a dod i ddeall yr hyn sy’n mynd ymlaen y tu ôl i’r sgriniau. Ond efallai mai’r hyn sy’n dy wneud yn fwyaf adnabyddus ar S4C yw dy gymeriad di fel Hari ar Rownd a Rownd. Sut wnest ti benderfynu ymgeisio am y rhan yma? Pan oeddwn yn ddeuddeg oed ac yn aelod o ysgol berfformio Glanaethwy, daeth Rownd a Rownd i wneud clyweliadau cyffredinol er mwyn cael syniad bras o actorion ar gyfer y dyfodol. Hynny ydi, doeddwn i ddim yn ymgeisio am ran benodol ond yn arddangos fy sgiliau actio er mwyn iddynt fy nghadw mewn cof ar gyfer rhannau posibl yn y dyfodol. Ymgeisiais am ran Lisa pan oeddwn yn dair ar ddeg oed, ond pan oeddwn yn bymtheg, cefais alwad ffôn yn gofyn imi fynd am glyweliad ar gyfer rhan Hari. Wythnos yn ddiweddarach clywais y newyddion gwych fy mod wedi bod yn llwyddiannus a dechreuais ffilmio o fewn yr wythnos, felly roedd yn broses cyflym a chyffrous iawn. A oedd yna unrhyw uchafbwynt neu olygfa benodol y gwnest ti fwynhau ei ffilmio? Gan fod cymeriad Hari yn ychydig bach o rebel fel maen nhw’n ei ddweud, roeddwn i’n ddigon ffodus i gael actio dipyn o olygfeydd cyffrous, ond efallai mai’r olygfa sy’n sefyll allan yw’r olygfa pan oeddwn i’n dwyn y fan laeth. Hefyd roedd yr olygfa o ddianc i’r Rhyl yn dipyn o hwyl am i mi gael mynd allan o set arferol Rownd a Rownd a ffilmio mewn lleoliad hollol newydd, er i mi bron â fferru yno am ei bod hi mor oer! Beth oedd y sialens fwyaf i ti yn ystod dy gyfnod fel actores? Mae’n siŵr bod ffilmio’r cyfnod o fod yn feichiog a’r enedigaeth yn eithaf lletchwith a braidd yn ddwys am fy mod mor ifanc ac yn amlwg heb orfod bod mewn sefyllfa o’r fath yn y gorffennol. Ond roedd fy ffrind yn digwydd bod yn feichiog ar y pryd a hefyd wedi rhoi genedigaeth cesaraidd fel Hari. Cefais dipyn o sgyrsiau hefo hi er mwyn ceisio uniaethu’n fwy â chymeriad Hari a’r hyn yr oedd hi’n gorfod ei ddioddef. A ydi problem beichiogrwydd ymysg pobl ifanc yn broblem gyfoes heddiw felly? Yndi yn sicr, ond hoffais y ffordd y gwnaeth Rownd a Rownd bortreadu beichiogrwydd ymysg pobl ifanc oherwydd iddo ddangos yr ochr bositif i’r sefyllfa; er enghraifft, y gefnogaeth ragorol gan Terri a Glenda, a bod bywyd ddim yn stopio o bell ffordd wrth gael plant. Mae Hari yn llwyddo yn ei harholiadau ac yn llwyddo i fynd i’r Brifysgol yn ystod ei chyfnod o feichiogrwydd, felly ’dw i’n meddwl bod Rownd a Rownd wedi rhoi hwb i bobl ifanc sy’n delio â sefyllfa debyg, a dangos er nad yw cael babi’n ifanc yn ddelfrydol, mae hi’ndal yn bosib byw bywyd i’r eithaf. Sut oeddet ti’n ymdopi â thrio gwneud gwaith ysgol yn ogystal â gorfod mynd i weithio yn aml? Doedd hi ddim yn rhy ddrwg, ond gan nad yw Rownd a Rownd yn gweithio ar benwythnosau, bu’n rhaid imi ddal i fyny hefo’r gwersi yr oeddwn yn eu colli. Roedd yr athrawon yn deall yn iawn ac yn ymddiried ynof fi ddigon i ddal i fyny gyda’r gwaith, felly yn amlwg ar adegau roedd gennyf i bentwr o waith dal i fyny yn ogystal â gwneud fy ngwaith cartref. Er dweud hynny, roedd Rownd a Rownd yn hynod o gefnogol ac yn trio eu gorau i weithio o gwmpas fy amserlen am fod gennyf wersi rhydd wedi imi fynd i’r chweched dosbarth. Hefyd roedd ganddyn nhw ystafell bwrpasol ar y set i ni allu dal i fyny hefo gwaith rhwng ffilmio golygfeydd gwahanol, felly roedd hynny’n ddefnyddiol iawn. A wyt ti’n meddwl bod yna agweddau ar dy bersonoliaeth di yn debyg i gymeriad Hari? Ar y dechrau, dim o gwbl, mae pawb yn fy adnabod i fel person eithaf diniwed a chydwybodol; mae Hari ar y llaw arall yn gymeriad cwbl i’r gwrthwyneb. Ond wrth i mi dyfu i fyny, ac wrth i Hari dyfu i fyny hefyd, mae hi’n callio ac yn troi yn debycach i mi mewn ffordd. Er hynny, cafodd Hari ei gorfodi i aeddfedu yn sydyn a chymryd cyfrifoldebau gyda’r babi. ’Dw i’n meddwl weithiau y buaswn i’n hoffi pe bawn i’n debycach i gymeriad Hari am iddi fod yn hyderus ac mor barod i ddweud yr hyn sydd ar ei meddwl, oherwydd ’dw i’n tueddu i gadw fy meddyliau’n ddistaw. Ond ar y cyfan, ’dw i ddim yn meddwl ein bod ni’n debyg iawn; mae yna actorion eraill ar Rownd a Rownd sy’n sicr yn debycach i’w cymeriadau. A wyt ti’n bwriadu parhau ym myd y cyfryngau yn y dyfodol? ’Dw i’n teimlo bod Rownd a Rownd wedi bod yn brofiad gwych, ond ’dw i’n meddwl y buaswn yn hoffi gwneud rhywbeth gwahanol yn y dyfodol. Pe bawn i’n parhau i actio, ’dw i’n meddwl y buaswn yn mwynhau gwneud gwaith theatr yn hytrach na theledu. Mae ffilmio yn broses cymhleth oherwydd bod rhaid cael nifer o shotsgwahanol mewn golygfeydd. Roedd hi’n golygu fy mod yn gorfod dod allan o’m cymeriad yn aml a cheisio ail-fynd i mewn iddo yn sydyn. Roedd hyn yn anodd iawn ar un adeg am i mi orfod crio bob dydd am wythnos! Felly er i Rownd a Rownd fod yn brofiad anhygoel, faswn i’n hoffi gwneud rhywbeth mwy byw yn y dyfodol, fel theatr efallai. |