Diolch
|
Mi fûm yn Nulyn droeon,
bob tro y gore ’rioed, gweld gwyrddni ar y meini, gweld rhyddid yn y coed. Mi yrrais i trwy Lydaw heb weld ’run enaid byw yn orie mân y bore a’r lleuad wrth y llyw. Mi welais Basg yn Alcañiz, a’r drymiau’n curo’n drist, eu galar ar hyd Aragón wrth gario Iesu Grist. Mi welais demtasiynau Prâg a’u gwrthod, bron i gyd, mi doddais yn y clybiau nos a rhewi ar y stryd. Mi yfais win ar hyd y pnawn ar sgwâr yn Rimini, a chael fy sgubo gan y gwynt o’r traeth i’m gwely i. Mi fûm i ym Mologna, yn hel fy mol, a chwrdd â Chymro oedd yn caru’i wlad yn well o fod i ffwrdd. Ar gopa bryn yn Athen, mi syllais ar y lloer, y pridd dan draed yn chwilboeth, a’r botel gwrw’n oer. Mi grwydrais sgwariau Warsaw un tro, ar fy mhen fy hun, a mi a dyfnder Vistula yn hapus a chytûn. Y meysydd awyr prysur a llwch gorsafoedd trên, fe’u gwelais cyn y tyfais i a’r freuddwyd hithau’n hen. |