Sara Jacob
|
Tu ôl i ddrws caeedig
Gorweddai’r gwyrth gwanllyd Fel brenhines yr arallfyd Yn gelain fyw. Dwy flynedd o orwedd Fel rhith ar aelwyd oer. Bodoli yn ôl rhai Heb ddŵr Heb ddiod. Pob nos yn dywyllach, Pob dydd yn brysurach. Daw brain â’u hanrhegion I syllu ar bentwr o esgyrn Heb ymestyn llaw Na cheisio’i hachub. Trachwant Rhyngddi hi a’i rhyddid. Trachwant Rhyngddi hi a’i thynged. Trachwant Yn ei gwneud yn anweledig. Tu ôl i eglwys y sant Gorwedda’r wyrth wanllyd Fel brenhines yr arallfyd Dan flanced werdd. |
Penderfynais ysgrifennu’r gerdd hon yn seiliedig ar hanes Sara Jacob. Merch ifanc o fy mhentref genedigol yn Llanfihangel-ar-Arth oedd Sara Jacob, a ddaeth yn adnabyddus dros Brydain fel ‘The Welsh Fasting Girl’. Honnai ei rhieni, Evan a Hannah Jacob, iddi fyw am fwy na dwy flynedd heb orfod bwyta nac yfed gan ennyn sylw’r wasg a meddygon. Yn ei blynyddoedd olaf fe’i cyfyngwyd i’r gwely oherwydd ei chyflwr, ac roedd ei rhieni yn annog ymwelwyr i roi rhoddion ariannol iddi. Yn y diwedd daeth nyrsys o Lundain i’w gwylio trwy’r dydd a’r nos, ac o fewn tri diwrnod bu farw Sara ar 17 Rhagfyr 1869. Yn dilyn ei marwolaeth, archwiliwyd ei chorff a daethon nhw o hyd i fymryn o fwyd yn ei stumog. Yn dilyn, bu achos llys a dedfrydwyd ei rhieni i garchar am fod yn euog o ddynladdiad trwy esgeulusdod bwriadol er mwyn elwa’n ariannol ar gyflwr ei merch.
|