Y Telynor ar y Stryd
|
Ar hast drwy Aberystwyth,
 dwy law â’u llond o lwyth, Clywais lais o estron law Yn ysgafn, fel blodysgaw Yn y gwynt yn hynt yr haf Yn dywanu amdanaf. Tannau oedd achos tyner Y gerddoriaeth, maeth i’m mêr. Ar y stryd am ennyd mwy ’N yr eiliadau clywadwy, Arhosais, sefais yn syn I wylio’r dyn a’i delyn, A dawns ei ddwylaw ar dant Oedd dwy allwedd diwylliant. Yn llun pob tant a llais Ei ddwylo, sylweddolais Nad dwylo’r dyn a’i delyn Oedd achos yr aros hyn. Mân wead o’m mewn ydoedd A hanfod cydwybod oedd Fy mod i, myfi fy hun, Yn gyw oed Cymraeg wedyn. |