Enwogrwydd
|
Sgrechiodd llond neuadd o bobl nerth eu pennau, cymaint nes nad oedd modd ei glywed yn canu ar ôl talu ugain punt i fynd i’w wylio. Nid dim ond un ohono oedd yno’r noson honno, ond degau o gopïau pedair modfedd yn nwylo’r rhai oedd yn brwydro i aros ar eu traed yn y dorf â’u dwylo yn yr awyr, yn trio cofnodi pob eiliad posib. A thrwy hynny, degau ar ddegau o bobl yn gwylio’r un hen gân drosodd a throsodd yn eu gwely clyd, yn dyheu am gael bod o fewn tafliad carreg i’r dyn fydd ryw ddydd yn gerflun.
Fore wedyn, aeth y dyn hwnnw i’r ffrij i estyn llaeth at ei Gôrn Fflêcs. Roedd hwnnw wedi suro. |