Carwriaeth
|
Ymateb i 'Deux femmes se reposant' gan Pablo Picasso
Nid oes neb yn gwybod Am ein cyfrinach ni, Ond y pedair wal Sy’n cau amdanom ni. Fin nos ar ddistaw duth, Tro’r celwyddau mân Yn araf yn rhai mawr, A nawr, mae’r byd ar dân. Tu ôl i’r gydwybod Mae hapusrwydd llon, Wrth imi orwedd Wrth dy ymyl, fron ym mron. Wedi’r awr o ddihangfa, Daw’r amser inni droi Yn ôl i’r straen a phwysau’r Dirwasgiad, yn lle ffoi. Wrth imi dy adael, Taro mae realiti, Pam na fedr hyn weithio Tu hwnt i’n byd bach ni? |