Chwilia
|
yn y penwythnosau coll
rhwng awyr boeth nos Wener a’r pnawniau Sul dibendraw; yng ngalar gitâr, yn y palmwydd pell sy’n cusanu’r traeth, yn y geiriau y tu hwnt i flaen dy dafod; yn y tŷ sy’n dy dwyllo di i glywed traed yr wyt ti’n gwybod yn iawn na ddo’n nhw’r ffordd yma, mwy; yn hapusrwydd dy hen gariadon sy’n dy frifo, yn y bar am dri y bore, mewn emynau; yn y gwylanod tragwyddol, yn y strydoedd a’r bydoedd bach; yn y gwagle rhwng dau fys diog ar y nodau du yn y glaw ac mi fydd rhywun yno’n dy ddisgwyl di. 05.01.18 |