Ogof Arthur
|
Caeais glawr y llyfr yn glep ar y bwrdd, ac edrychais arno’n gyhuddgar fel pe bai’n syllu yn ôl arnaf. Bradwr, meddyliais. Un llyfr arall i’r pentwr sy’n gwrthod datgelu’r ateb i mi. Roeddwn wedi gwylltio’r tro hwn. Roeddwn wedi cynnau llusern fechan ar fy nesg, ac mi wyliais yr edafedd yn araf ddiflannu ac yn troi’n smotyn bach coch ac yna’n ddim. Dyma’r tro cyntaf ers amser maith i’r gannwyll ddiffodd cyn imi gael cyfle i baratoi mwy o nwy. Pwysais yn ôl yn fy nghadair ac edrych ar y nenfwd: dim ond duwch llwyr oedd i’w weld, golygfa gyfarwydd erbyn hyn. Daethai’r gaeaf i’n croesawu unwaith eto, ond yn gasach ac yn fileiniach nag arfer. Bu’n oer ac yn dywyll bob diwrnod. Ni allai pelydrau gwan yr haul hyd yn oed dreiddio’r trwch o fwg du a orweddai’n drwm ar y dref. Caeais fy llygaid.
Drannoeth, deffrois yn fy nghadair gyda chric yn fy ngwâr. Peth digon gwan oedd fy nghorff erbyn hynny, ac roedd pob bore’n boenus. Mor braf oedd y dyddiau hynny pan gawn fynd allan i’r byd i ddatrys fy nghwestiynau, yn hytrach nac eistedd yn llonydd yn astudio llyfrau byth a beunydd. Petheuach diwerth oedd y llyfrau i mi bellach: i ba ddiben darllen os nad oedd yr ateb yn llechu yn ddireidus yn y canol? Roeddwn i wedi darllen pob llyfr a allai gynnwys unrhyw ddarn o wybodaeth am guddfan ogof Arthur, ac o dudalen i dudalen, suddai fy nghalon yn is ac yn is gan lusgo fy ngobeithion i lawr gyda hi. Mi ddaeth yn awr deffro Arthur, ond ni fyddai posib ei ddeffro heb yn gyntaf ddod o hyd i’w ogof. Roeddwn wedi bod wrthi ers blynyddoedd, a’r gaeafau’n mynd yn galetach bob tro. Doeddwn i ddim agosach, dim mymryn agosach at ddod o hyd i’w ogof. A’r llyfr a ddarllenais y noson honno oedd yr olaf. Y llyfr olaf a fedrai egluro lleoliad yr ogof. Mi wyddwn ddau beth yn iawn: ei bod wedi ei chuddio o dan y ddaear, a bod coeden gyll ysblennydd yn gwarchod y fynedfa. Coeden gyll a’i changhennau wedi plethu’n naturiol: arwydd fod rhywbeth arbennig ar droed. Ond doedd dim posib dod o hyd i’r goeden honno. Roeddwn i wedi chwilio a chwilio a bellach doedd dim llyfrau ar ôl i’w darllen. Doedd dim mwy o wybodaeth ar glawr am leoliad y goeden na’r ogof. Yna, wrth i’m meddwl ymlacio, sylweddolais fod golau ysgafn yr haul yn llyfu fy wyneb. Rhaid bod y mwg wedi cilio o’r diwedd. Codais o fy nghadair a pharatoi i fynd am dro. Aethai dyddiau lawer heibio ers i mi adael distawrwydd fy stydi, ac mi dybiwn y gwnâi les i mi fynd allan, a chael gweld rhywbeth byw yn hytrach na thudalennau llipa’r llyfrau. Es allan drwy’r drws a chymryd eiliad i wylio’r bobl yn gwibio heibio. “Sorry!” “Excuse me.” “Pardon me.” Pob un yn gwthio heibio heb gymryd eiliad i ddweud ‘helô’ na ‘bore da’ na ‘hello’ hyd yn oed. Saesneg ar eu tafodau, bob un ohonynt, a’r un yn gwybod eu bod mewn gwlad arall, un a chanddi ei hiaith ei hun. Roedd angen Arthur, yr union eiliad honno. Roeddwn wedi gwylio’r sefyllfa’n gwaethygu bob wythnos ers blynyddoedd: mwy a mwy o bobl yn dod i weithio i’r dref, mwy o Saesneg, mwy o sŵn a mwy o fwg. Arthur oedd yr unig obaith, ond roedd o’n gwrthod datgelu ei hun. Ond a bod yn onest, roedd yn annhebygol fod gen i lawer o amser ar ôl beth bynnag. Wiliam, yr hen ddyn sy’n byw a bod yn ei stydi ydw i bellach. Byddai’r broblem yn broblem i rywun arall cyn hir. Gwthiais fy ffordd heibio i drigolion y dref, a draw at y parc. Llecyn tawel yng nghanol bwrlwm y bobl. Cerddais am amser hir ar hyd y llwybrau rhwng y coed, yn gweld yr haul yn pipian trwy’r canghennau i greu patrwm hudolus ar y llawr. Wrth i mi edrych o fy nghwmpas mi sylwais ar ddyn yn pwyso ei gefn yn erbyn coeden yn ddiog. Roedd ei wedd yn llawer hŷn na’i lygaid. Piti, meddyliais. Un arall wedi ei ddenu o’r wlad i’r dref, dim ond i sylweddoli nad oes dim byd yma go iawn. Twyll yw’r cwbl. Mi wyddwn y deuai o’r wlad gan fod ganddo ffon yn gorwedd wrth ei ymyl. Nid oedd pobl y dref yn berchen ar ffyn. Roedd hi’n ffon wych hefyd, wedi plethu’n naturiol i greu darn o waith pren hyfryd. Arhosais am eiliad, ac edrych ar y ffon unwaith eto. Gwibiodd fy llygaid drosti gan astudio bob modfedd. Roedd y plethu’n creu patrwm rhyfeddol. Dechreuodd fy nghalon guro. Wedi’r holl flynyddoedd o chwilio, a orweddai’r ateb yn nwylo’r bachgen hwn? Mi gychwynnais draw i’w gyfarch, ond roedd rhywbeth yn fy rhwystro rhag mynd ato. Roedd yn rhaid i mi wirio yn gyntaf. Gwirio mai ffon fel honno a allai gael ei chreu o’r goeden gyll a warchodai ogof Arthur. Ond cyn i mi frysio yn ôl, mi gymerais un cipolwg arall ar y ffon ac ar y dyn, i sicrhau y gallwn ei adnabod eto. Rhuthrais yn ôl drwy’r bobl i dawelwch fy stydi. Roedd pentyrrau o lyfrau yn gorchuddio pob arwyneb yn yr ystafell. Diawliais fy hun am beidio rhoi trefn ar yr holl gasgliadau. Ble roedd y llyfr? Gallwn ei weld o yn fy meddwl, un glas a thenau gyda’r teitl ‘Cyfrinachau Cymru’ mewn aur ar y clawr. Mi wyddwn yn iawn fy mod wedi ei ddarllen ychydig wythnosau ynghynt, ond doedd gen i ddim syniad ble y cedwais i o wedyn. Daria! Mi gyrhaeddodd moment bwysicaf fy mywyd, a fedrwn i ddim cadarnhau fy amheuon gan fy mod yn rhy ddiog i glirio! Chwilotais drwy bentyrrau o lyfrau gan greu mwy o lanast ar hyd y ffordd. Ond yna, ynghanol pentwr bychan ar ben cwpwrdd, mi welais yr union beth yr oeddwn yn chwilio amdano. Heb ormod o drafferth llwyddais i lithro’r llyfr bach glas allan o ganol y pentwr. Byseddais y tudalennau’n frysiog nes i mi ddod o hyd i’r un cywir. Dyna hi, ynghanol un o’r tudalennau, darlun o’r goeden gyll gyda llun bach manwl o un o’r canghennau wedi ei ddarlunio yn ei ymyl. Dyma yn union sut yr edrychai ffon y bachgen. Bellach doeddwn i’n amau dim. Mi greodd y bachgen y ffon yn defnyddio un o ganghennau’r goeden. Bu’n rhaid i mi eistedd yn ôl yn fy nghadair am eiliad i ddal fy ngwynt. Teimlais fy nghalon yn curo yn fy mhen. Cymerais anadl ddofn. Mi adewais i fy nghalon ddod ati ei hun cyn edrych ar y llyfr unwaith eto. Yn bendant, hwn oedd yr un. Wedi’r holl ddisgwyl ac ymchwilio, dyma’r cliw olaf i’r pos. Doedd y byd ddim ar ben wedi’r cwbl. Mi gaiff Cymru ei hachub, gan fy mod i am ddod o hyd i ogof Arthur. Mi fentrais allan am yr ail dro'r diwrnod hwnnw, gyda’r llyfr bach glas yn saff ym mhoced fy siwt. Gwthiais heibio’r bobl ar y stryd a brasgamu draw at y parc. Mi anelais yn syth at y goeden y bu’r bachgen yn pwyso yn ei herbyn yn gynharach ond suddodd fy nghalon. Doedd dim golwg o’r bachgen, dim byd i hyd yn oed awgrymu ei fod wedi bod yno o gwbl. Mi ddechreuais boeni. Efallai na fu yno erioed fachgen, efallai mai fy meddwl oedd yn chwarae triciau. Ai dyma’r diwedd i mi rŵan? Treulio gweddill fy oes yn dychmygu fy mod am ddarganfod ogof Arthur? Roedd chwys oer yn gorchuddio fy ngwâr. Mae’n siŵr ei bod hi’n olygfa ryfedd gweld dyn yn ei oed a’i amser yn sefyll yn rhythu ar goeden. Ond cyn i mi ddechrau gor-feddwl pethau’n fwy, mi benderfynais fynd yn ôl i gysur fy nghartref. Erbyn i mi wthio’r goriad drwy’r twll clo, roedd hi unwaith eto yn teimlo fel canol nos, er mai dim ond hwyr y prynhawn oedd hi mewn gwirionedd. Mi es i eistedd yn fy nghadair ac ail chwarae’r diwrnod yn fy mhen, eto ac eto yn dadansoddi pob eiliad. Er i mi ddechrau amau fy hun, mi wyddwn ym mêr fy esgyrn fy mod wedi gweld y bachgen a’r ffon. Mi wn. Mi syrthiais i gysgu yn y gadair eto’r noson honno, gan freuddwydio am gyfarfod y bachgen. Mi ddeffrois gyda chric yn fy ngwâr, ond heb belydrau’r haul yn llyfu fy wyneb yn ysgafn. Mi ruthrodd digwyddiadau’r diwrnod cynt yn ôl i’m meddwl gan lenwi pob twll a chornel o’m hymennydd. Penderfynais fynd yn ôl i’r parc, un waith eto. Doedd gen i ddim i’w golli erbyn hyn. Roedd yn rhaid i mi ddeffro Arthur. Roedd angen achub Cymru, ac roedd gan y bachgen yr ateb. Heb aros eiliad mi es yn ôl i’r parc, yn benderfynol o ddod o hyd i’r bachgen y tro hwn. Cerddais mor gyflym ac y gallai fy nghoesau gwan fy nghario. Roedd dyfodol Cymru yn fy nwylo i. Mi welais ei gorff diog o bellter, yn union fel y diwrnod cynt, yn pwyso ei gefn yn erbyn y goeden. Ymlaciodd fy holl gyhyrau ac ymlaciodd fy meddwl ac am y tro cyntaf ers misoedd mi giliodd popeth yn fy mhen. Cerddais yn hamddenol braf draw at y bachgen, yn gwybod bod Cymru'n saff. “Bore da,” mi’i cyfarchais yn llawen. “Wiliam ydy’r enw, ac mi hoffwn i ti ddweud wrthyf ble cefaist dy ffon.” Edrychodd arnaf mewn braw. “Be?,” gofynnodd. “Mi hoffwn i ti ddweud wrthyf ble cefaist dy ffon,” dywedais eto, yn arafach y tro hwn. “Pam? Pwy wyt ti?” “Wel, mae hi’n stori gymhleth.” cyfaddefais. Stryffagliodd y bachgen i’w draed gan afael yn dynn yn ei fag a’i ffon. “O, o paid gadael, gad i mi egluro,” meddwn yn frysiog. “Mi hoffwn i ti egluro o ble cefaist dy ffon. Rwy’n credu mai’r goeden honno sy’n gwarchod ogof Arthur.” “Ti ’di colli arni,” atebodd. “Na wir rŵan, tyrd yn ôl gyda mi i fy nghartref ac mi gawn ni sgwrs gall.” Dechreuodd y bachgen lusgo’i draed yn anghyfforddus. “Mi allwn gynnig pryd o fwyd poeth i ti, a llety am y noson,” ychwanegais. Mi oleuodd ei lygaid. Gwenais. Mi gerddodd y ddau ohonom yn araf yn ôl i fy nghartref. Gosodais fowlen o gawl poeth ar y bwrdd o flaen Owen. Dysgais ar y daith mai Owen oedd ei enw, yr unig beth a ddysgais wir. Mi lowciodd yr holl beth mewn munudau. Ond roedd o eto i ddatgelu ble yn union y cafodd ei ffon Tueddai i newid y sgwrs. Er fy mod i wedi egluro yn fanwl iawn pam fod angen iddo ddweud wrtha i, roedd o’n gyndyn o wneud. Roeddwn i wedi ei wneud yn hollol amlwg ei fod yn hanfodol i mi gael gwybod. Roedd angen achub yr iaith, roedd angen achub tir y wlad, roedd angen achub Cymru. Mi ddangosais fy llyfrau iddo, a’r dudalen arbennig honno yn y llyfr bach glas. Ymddangosai fod ganddo rywfaint o ddiddordeb. Felly wedi iddo orffen llyfu’r fowlen yn lân, mi ofynnais eto. “Mi a’ i â ti at yr union fan ble mae’r goeden, ond am bris,” cyhoeddodd. Edrychais arno mewn sioc. Bûm yn dwp. Roedd y bachgen yma'n gardotyn, ac roedd ganddo wybodaeth nad oedd gen i. Roeddwn innau wedi ei wneud yn fwy nag amlwg fy mod i wir angen y wybodaeth hynny. Felly yn amlwg roedd o’n mynd i fod eisiau rhywbeth yn ôl am roi'r wybodaeth hynny i mi. Ond yn sydyn mi gofiais. Nid dim ond Arthur yn unig a orweddai yn yr ogof. “Cer â mi at y goeden, ac mi gei di aur,” awgrymais, “Digon o aur i dy gael yn ôl ar dy draed.” “Ac o le yn union y ca’ i'r aur yma?” “Yr ogof. Yno mae Arthur a’i ddynion yn cysgu, ynghyd â thunelli o aur.” “Sut y medra’ i dy gredu di?” holodd yn ddrwgdybus. “Fedri di ddim, mae’n rhaid i ti ymddiried ynof.” Ar hynny mi gododd ei law i ysgwyd fy un innau. Dechrau antur newydd i’r ddau ohonom ni. Y noson honno bûm yn ddiwyd yn pacio a chasglu fy mhethau i fynd ar y daith. Bu hi'n flynyddoedd ers i mi deimlo cyffro fel hyn. Eglurodd Owen mai ar y ffordd draw i’r dre y daeth ar drywydd y goeden. Mi wnaeth ffon iddo ei hun i’w helpu ar hyd y daith. Ond yr hyn oedd yn bwysig oedd ei fod yn cofio yn union ble yr oedd hi. Mi adewais iddo ef gysgu yn fy ngwely i, roeddwn i wedi cysgu yn fy nghadair y ddwy noson ddiwethaf. Felly doedd un noson arall ddim yn gwneud llawer o ddrwg. Disgynnais i gysgu yn hapus am y tro cyntaf ers amser maith. Roedd yr holl waith darllen ac ymchwilio, yr holl nosweithiau tywyll, yr holl ddioddef wedi bod yn werth pob eiliad yn y diwedd. Oherwydd roeddwn i ar achub Cymru. Y bore wedyn, roeddwn ar ddihun ymhell cyn toriad y wawr, yn gwrando ar y cloc yn llusgo’r munudau yn eu blaen. Roeddwn ar dân i gychwyn ein taith, ond clywn Owen yn chwyrnu yn drwm yn yr ystafell drws nesaf. Wedi i mi benderfynu ei bod hi’n ddigon hwyr i’w ddeffro, casglais fy mhethau gan wneud yn siŵr fy mod yn gwneud digon o sŵn. Ac yn ddigon siŵr, mi ddeffrodd Owen. Mi gychwynnodd y ddau ohonom ben bore, minnau heb syniad i ble, ac yntau yn sicr o’i gam. Cyn hir â hwyr roeddem ymhell o ddüwch y dref ac allan yn y wlad. Bu hi’n flynyddoedd ers i mi arogli awyr iach. “Felly, Owen.” ceisiais ryddhau’r tensiwn, “Beth a dy ddenodd di i’r dref?” “Gwaith.” “O felly, pa fath o waith?” “Unrhyw beth. Mae unrhyw beth yn well na slafio ar fferm byth a beunydd.” “Bachgen fferm wyt ti felly,” meddwn innau gan wybod yn iawn. Bu’r ddau ohonom yn sgwrsio fel hyn am dipyn, yn gofyn ac yn ateb y cwestiynau cyffredinol i gyd, nes i fy nghoesau ddechrau gwegian. Doeddwn i ddim wedi cerdded cymaint ers i minnau symud i’r dref. Doedd dim angen cerdded yn bell yno, roedd popeth mor agos. Yn un pentwr Seisnigaidd o siopau a phobl ddiamynedd. Yma roedd milltiroedd yn llithro heibio heb i ni weld yr un dyn i'w gyfarch. Ond wrth i mi ddechrau sylwi ar y boen yn fy nghoesau, mi ddaeth amlinelliad tenau tŵr eglwys ar y gorwel. Mi synhwyrodd Owen fy rhyddhad. “’Di blino'n barod? Ma’ ‘na dipyn o ffordd i fynd eto.” “Na, mi wn, dim ond angen seibiant bach.” Deuai mwy o adeiladau i’r golwg wrth i ni nesáu. Pentref bychan ydoedd gyda thafarn ar yr ochr dde. Roedd y syniad o gael eistedd i lawr a chael pryd call o fwyd yn apelio’n fawr. I ddweud y gwir, roedd yr aer wedi dechrau oeri a’r nos yn sleifio atom. Felly roedd hi’n amser i ni orffwyso am y noson. Aethom ein dau i mewn trwy ddrysau’r dafarn. Mi osodais innau fy hun yn gyfforddus ar y gadair agosaf, a gollwng fy mag yn drwsgl ar y llawr. Diolchodd fy nghoesau wrth i’r boen hedfan i ffwrdd. Mi yrrais Owen i ofyn am ystafell i ni’n dau, a phryd o fwyd poeth i lenwi ein boliau. Bu’n ddiwrnod hir o gerdded, ac roedd fory yn mynd i fod yn galetach. Ond mewn gwirionedd, roeddwn i wrth fy modd. Doedd dim ots bod fy nghoesau'n gwegian. Roeddwn i am ddod o hyd i ogof Arthur. Roeddwn i am ei ddeffro ac mi fyddai’n codi’n arwrol ac yn achub Cymru. Wrth i’m meddwl ddechrau crwydro daeth Owen yn ôl a thorri ar draws fy mreuddwydion. Yn ei ddwylo roedd dau blât gyda stêm yn prysur ddianc ohonynt. Gosododd y platiau ar y bwrdd o’n blaenau. Eisteddodd y ddau ohonom mewn tawelwch yn bwyta. Mi lowciodd ef y bwyd yn llawer cynt na mi. Er i mi fod ar lwgu, doedd fy stumog ddim yn medru derbyn bwyd mor gyflym ac y bu. Edrychodd Owen arnaf yn gorffen fy mhryd. Roedd ei lygaid fel rhai fwltur yn barod i fachu unrhyw beth y gadewais ar ei ôl. Mi wyddwn ei fod yn gwylio, ac mi wyddwn ei fod angen mwy o fwyd na minnau. Mi osodais fy nghyllell a’m fforc yn daclus gyda’i gilydd. Lledaenodd llygaid Owen. “Cymer y gweddill. Rwyt ti fwy o’i angen o na mi.” Ac yn wir, mi lowciodd fy sbarion yn gynt na’i fwyd ei hun. Roeddwn i eto i ddod i adnabod y bachgen yma’n iawn. Atebion cyffredinol a roddai i mi bob tro. Hoffwn ddod i’w adnabod yn well os oedd o am rannu profiad mor arbennig â mi. Doeddwn i ddim yn credu ei fod wedi deall maint beth oedd o ar fin ei weld. Roeddwn i hefyd yn amau a oedd o’n fy nghredu o gwbl i ddweud y gwir. Roedd rhyw agwedd ‘dwi’n gwybod yn well’ yn ei gylch, ond eto roedd o’n fachgen ddigon hoffus. Doedd o ddim i weld y math o berson a fuasai’n achosi niwed i mi. Roedd hi’n fagddu y tu allan erbyn i ni orffen ein bwyd felly i fyny a’r ddau ohonom i’n hystafelloedd. Mi gawsom ystafell yr un, gan ei bod hi’n gyfnod tawel o’r flwyddyn. Gorweddais yn y gwely yn hollol effro. Gallwn deimlo’r cyffro yn berwi y tu mewn i mi. Petai fy nghorff yn caniatáu, mi fuaswn yn neidio ar y gwely yn y fan a’r lle yn chwifio fy mreichiau’n wyllt ac yn gweiddi i bawb gael clywed, “Rwyf am achub Cymru! Does dim angen i chi boeni am ddyfodol eich gwlad dim mwy! Mae Arthur ar ei ffordd!” Ond gorwedd yn fud yn y gwely wnes i, gyda fy llygaid yn agored yn syllu ar y nenfwd. Roedd fory ar fin cyrraedd, y diwrnod mawr. Dim mwy o glywed Saesneg yn boddi’r dre, dim mwy o boeni am yr iaith, dim mwy o ddioddef. Deffrois yn sydyn. Roedd hi’n fore. Es i gnocio'n galed ar ddrws ystafell Owen i wneud yn siŵr ei fod ar ddihun, cyn imi wneud fy ffordd i lawr y grisiau i dalu am yr ystafelloedd. Heb fod yn bell ar fy ôl mi ddaeth Owen hefyd i lawr y grisiau, ac i ffwrdd â ni i orffen ein taith. Roedd hi’n ddiwrnod hyfryd o aeaf, barrug ar y llawr a’r awyr yn las las. Roedd hyd yn oed Owen mewn gwell hwyliau. Roedd o fel petai ganddo ddiddordeb gwirioneddol yn Arthur heddiw. Eglurais wrtho bopeth roeddwn i’n ei wybod, ynghyd â pham roeddwn i angen dod o hyd i’r ogof. Ni chwestiynodd ddim a ddywedais. Mi wrandawodd yn astud ar bob gair. Mi holodd sawl cwestiwn am yr aur, ac mi soniais am yr hyn roeddwn i’n credu oedd yno. Roeddwn i wir ar ben fy nigon. Gobeithiwn nad diwedd y daith oedd diwedd ein perthynas. Roedd rhywbeth hoffus iawn amdano. Cyn hir, mi gyhoeddodd Owen ein bod ni ar fin cyrraedd. Crynai fy nwylo. Wyddwn i ddim ai’r oerfel neu’r cyffro a berai hynny. Mi arweiniodd Owen y ffordd gan droedio’n hyderus ar hyd y llwybr. “Dyma hi,” cyhoeddodd. Ac yn wir, hon oedd hi. Yn union fel y darlun yn y llyfr bach glas. Mi deimlais ddagrau yn cronni yn fy llygaid. Roedd o fel petawn i mewn breuddwyd. “Felly be rŵan?” torrodd Owen ar draws fy meddyliau. “Ia,” atebais “cwestiwn da.” Wedi i ni astudio’r goeden yn fanwl, gan edrych arni o bell ac agos, mi ddaethom i’r casgliad mai tyllu oedd y syniad gorau. A chwarae teg i Owen roedd o wedi cario rhaw gydag o ar ei gefn ers dechrau’r daith, gan fy mod wedi amau mai tyllu y buasai angen i ni ei wneud. Gan nad oeddwn i yn y cyflwr gorau i rawio pridd allan o'r ddaear mi adewais i hynny i Owen. Bûm innau’n darllen yn ddiwyd ger llaw. Mi wnes i’n hollol siŵr ei fod yn tyllu yn y lle cywir ac eglurais yn union beth a ddylai fod yn edrych amdano. Mi dyllai Owen braidd yn wyllt ar adegau a bu'n rhaid i mi ddweud wrtho sawl gwaith am fod yn ofalus, a doedd o ddim yn rhy hapus am hynny. Dechreuodd fygwth stopio tyllu a fy ngadael yno r fy mhen fy hun. Felly bu raid i mi addo stopio siarad nes ei fod o’n gweld rhywbeth. Cyn hir mi alwodd Owen arnaf. Llyncais fy mhoer. Cerddais draw at y goeden yn llawn gobaith. Doedd dim darn ohonof yn amau dim. Mi edrychais i lawr y twll a gweld y grisiau pren yn arwain i’r tywyllwch. Roedd o’n wir, roedd o yno o fy mlaen. Gorweddai dyfodol Cymru ar waelod y grisiau. “Be ti’n feddwl ta? Ydy o be odda' chdi 'di ddisgwyl?” “Mae o’n union beth a ddisgwyliais. Mae’n well; mae’n arwain at Arthur.” “Tyrd yn dy flaen ta, i ni gael gweld. Ac i mi gael fy nhalu!” Estynnodd ddwy lusern fechan o’i fag a’u goleuo cyn rhoi un mi. “Ar dy ôl di, dy freuddwyd di ’di hyn.” meddai. Mi gymerais y cam cyntaf, yna'r ail, yna'r trydydd nes fy mod bron â chyrraedd y gwaelod. Yna, wrth i olau’r haul ddiflannu y tu cefn i ni, cerddais i mewn i’r ogof fwyaf i mi ei gweld erioed. Sefais yng ngheg yr ogof yn stond. Roedd hi wedi ei goleuo ym mhobman, degau os nad cannoedd o ganhwyllau yn pefrio. Mi glywais anadl Owen yn cael ei gipio o’i geg wrth iddo weld yr olygfa o’i flaen. Mi gysgai Arthur mewn gorsedd ar ben mynydd o aur yng nghanol yr ogof gyda’i ddynion yn cysgu yn drwm ym mhob man. Disgleiriai’r aur yng ngolau melyn y canhwyllau, gan oleuo’r ogof hyd yn oed yn fwy. Yno yn y gornel roedd cloch efydd enfawr yn hongian yn gadarn yn erfyn i gael ei chanu. Ni welais ddim byd tebyg yn y llyfrau. Doedd dim geiriau yn dod yn agos i gyfiawnhau'r hyn a welais o fy mlaen. Teimlai fel petai popeth yn y byd yn berffaith am eiliad. Am un ennyd doedd dim byd i boeni amdano. Doedd dim poen, dim ond tawelwch perffaith. Nes i mi glywed sŵn yr aur yn tasgu dros bob man gydag Owen yn rhawio cymaint ag y medrai i mewn i’w bocedi. “Hei!” gwaeddais arno, “Paid!” Ond roedd Owen yn llawer rhy brysur yn dwyn yr holl aur i sylwi arna i’n galw arno. “Owen!” galwais unwaith eto yn uwch. Trodd rownd i fy ngwynebu i. Roedd ei lygaid yn fawr. Edrychai fel petai heb gysgu ers misoedd. “Be wyt ti’n feddwl wyt ti’n neud?” gofynnais. “Mi ddudis di y baswn i’n cael aur!” “Wel do, ond nid fel hyn. Nid dwyn yn farus, dim ond cymryd ychydig i dy gael yn ôl ar dy draed. Dyna oeddwn i’n ei olygu.” “Mi gymeraf i faint fynna'i.” meddai â gwen slei. Roedd gweld yr aur wedi chwalu ei ben yn llwyr. Yr unig beth y gallai wneud oedd gafael mewn cymaint o aur ag y medrai. Edrychai fel dyn gwallgof. “Owen!” Mi alwais arno gyda’r llais cryfaf y gallwn ei gynhyrchu. Mi stopiodd Owen yn stond ac edrych arnaf. Roeddwn i wedi fy nychryn fy hun i ddweud y gwir. Ni wyddwn fod cymaint o lais gen i. “Gwranda arnaf am eiliad wnei di?” Mi ollyngodd Owen yr aur yn ei ddwylo ac mi ddisgynnodd y ceiniogau yn swnllyd ar y llawr. Cymerais anadl ddofn cyn ceisio egluro pwysigrwydd y gloch a oedd yn hongian yn y gornel. Roedd y gloch yn un hynod. Petai hi’n cael ei chanu byddai Arthur a’i ddynion yn deffro. Roeddent wedi bod yn cysgu ers canrifoedd, yn disgwyl i gael eu deffro, yn disgwyl am y diwrnod roedd eu hangen unwaith eto. Un caniad o’r gloch ac mi fydd eu llygaid yn agor. A dim ond un waith oedd rhywun yn medru eu deffro. Ond mi roedd ffordd o’u rhoi yn ôl i gysgu, dim ond dweud y geiriau yma yn glir ac yn gadarn. “Ni ddaeth yr awr.” Mi eglurais hyn wrth Owen. Edrychodd arnaf yn od. “Felly mi wyt ti eisiau canu’r gloch?” gofynnodd. “Wel oes, fel bod Arthur yn deffro ac yn achub Cymru. A dydw i ddim eisiau iddo ddeffro a dy weld tithau yn dwyn yr holl aur yma.” “Mi wyt ti’n bwriadu ei ddeffro oherwydd dy fod ti’n teimlo fod yma ormod o bobl yn siarad Saesneg.” “Ydw.” “Dyna ydi dy reswm di?” “Ia,” atebais yn gadarn. “Wel, dydi hynny yn poeni dim arna’ i. Felly gad lonydd i mi gael cymryd yr aur ’ma!” Mi ledaenodd ei lygaid unwaith eto wrth iddo sylwi ar y mynydd o fariau aur a oedd wedi eu gosod mewn pentwr taclus wrth ymyl y gloch. Mi frysiodd draw gan ymestyn ei freichiau i afael yn y bariau. Ond wrth iddo frysio, mi faglodd dros y ceiniogau a orweddai ar y llawr, ac mi drawodd y gloch. Mi aeth yn syth i mewn iddi gan wneud sŵn dychrynllyd, ond ar draws y twrw roedd sain nodau cloch hyfryd. Wrth i’r nodau seinio trwy’r ogof mi sylweddolais fod Arthur yn deffro. Mi agorodd ei lygaid yn sionc gan edrych o’i gwmpas yn syn. “Na! Ddim eto! Ni ddaeth yr awr!” gwaeddais mewn panig llwyr. Gwyliais wrth i gorff Arthur suddo yn ôl yn gysglyd i’w orsedd. Curai fy nghalon yn gynt nag erioed o’r blaen. Roedd o’n wir felly. Roedd sain y gloch yn ei ddeffro. Sefais yno'n stond yn methu coelio beth oeddwn i newydd ei wneud. “Hei, o’n i’n meddwl mai dyna oedda' chdi isho? Gormod o ofn oedd gen ti?” galwodd Owen arnaf yn herfeiddiol, yn dal i lenwi ei bocedi â’r trysor. Wyddwn i ddim beth i’w wneud. Edrychais o fy nghwmpas. Dyma oedd fy mreuddwyd ond roedd popeth yn anghywir. Doedd dim posib i mi ddeffro Arthur eto ac roedd Owen yn y gornel yn dwyn yr aur. Roedd yr holl beth yn gwbl anghywir. Ond yn sydyn mi gofiais, mi gofiais i mi ddarllen un tro fod unrhyw un a oedd yn disgyn i gysgu yn yr ogof yn disgyn i gysgu am byth, yn union fel Arthur a’i ddynion. Wyddwn i ddim a oedd o’n wir ond roedd popeth arall wedi bod yn wir hyd yn hyn. Petai Owen yn disgyn i gysgu ni fuasai yn medru datgelu'r holl gyfrinachau wrth y byd na chwaith ddwyn yr holl aur. Edrychais arno. Roedd o’n paratoi i adael. “Owen, na paid â gadael eto,” rhuais. “Pam? Dwi ’di cael mwy nag y disgwyliais felly dwi’n barod i fynd rŵan.” “Wel, wel beth am i ni orffwys am ychydig cyn gadael. Mae hi’n gynnes braf yn fan hyn ac mae hi wedi bod yn ddiwrnod hir.” Gweddïais y buasai Owen yn cytuno. Roeddwn i’n methu meddwl am ffordd arall i ddatrys yr holl sefyllfa. “Nawn ni byth gyrraedd unman cyn iddi dywyllu beth bynnag.” “Mae hynny’n wir.” “Tyrd. Mi arhoswn ni yma am ychydig, a beth bynnag ddown ni byth yn ôl felly waeth i ni wneud y gorau ohoni rŵan.” Edrychais arno, fy llygaid yn erfyn iddo aros, ac yn wir mi eisteddodd i lawr. Rhoddais ochenaid o ryddhad. Eisteddais innau i lawr hefyd gan bwyso fy nghefn yn erbyn un o waliau’r ogof. Roedd hi’n deimlad braf cael ymlacio a gorffwys am ychydig. Mi deimlais fy llygaid yn trymhau ond brwydrais yn erbyn y reddf i’w cau. Doedd fiw i minnau hefyd ddisgyn i gysgu. Gwyliais Owen o gornel fy llygad. Gwyliais wrth i’w gorff yntau ymlacio a suddo i safle cyfforddus. “Dim ond seibiant bach,” meddwn yn dawel. Mi gaeodd Owen ei lygaid. Syllais arno. Syllais nes fy mod yn sicr ei fod yn cysgu. Roedd ei gorff yn llipa a’i ben wedi gwyro i un ochr. Mi godais ar fy nhraed yn araf gan geisio peidio â sathru ar yr holl geiniogau ar y llawr. Sleifiais tuag at geg yr ogof ac edrych ar yr olygfa un waith eto. Roedd o’n gwbl wych, ond oherwydd fy niffyg hyder ni lwyddais i achub Cymru. Roeddwn i wedi fy siomi. Ond doedd dim byd y medrwn wneud am y peth rŵan, roedd hi’n rhy hwyr. Cerddais i fyny’r grisiau pren i weld bod yr haul yn machlud a’r aer yn rhewi. Wyddwn i ddim sut i deimlo. Roeddwn yn edifar, yn teimlo rhyddhad, wedi fy siomi ond eto roedd yr holl brofiad yn hollol anhygoel. Roedd fy meddyliau ar chwâl. Ond roedd yn rhaid i mi barhau fel na tasai dim wedi digwydd, fiw i mi ddatgelu'r holl gyfrinachau. Wrth i mi ddechrau cerdded trwy’r oerfel, meddyliais y buaswn yn medru ysgrifennu llyfr. Nodi popeth ynddo ond peidio â’i gyhoeddi, dim ond ei adael i rywun arall fel fi ei ddarganfod un diwrnod. I rywun arall gael y cyfle i brofi’r cyffro a’r wefr, ac efallai achub Cymru ar yr un pryd. |