Sgwrs â'r prifardd a meuryn Talwrn y Beirdd BBC Radio Cymru, Ceri Wyn Jones
|
Magwyd Ceri Wyn Jones yn Aberteifi yng Ngheredigion. Ef oedd Prifardd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala 1997, Prifardd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala 2009, ac enillodd ei ail Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014 am ei awdl ar y testun ‘Lloches’. Bu’n fyfyriwr yn yr Adran Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn dechrau dysgu yn Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi. Ar ôl gadael y byd addysg cafodd swydd yng Ngwasg Gomer fel golygydd yn 2002, ac mae ef bellach yn gweithio fel golygydd llawrydd. Bu’n Fardd Plant Cymru rhwng 2003 a 2004, ac mae bellach wedi olynu Gerallt Lloyd Owen fel Meuryn Talwrn y Beirdd ar BBC Radio Cymru.
Sut dechreuodd eich diddordeb mewn barddoni? Roeddwn i wastad wedi dwlu ar eiriau ond doeddwn i ddim yn un o’r plant hynny a oedd â’u bryd ar fod yn awdur! Pethau eraill oedd yn mynd â’m bryd i. Roeddwn yn ymddiddori mewn cerddoriaeth, chwaraeon, drama a chymdeithasu o bob math. Beth fuodd yn gymorth i mi oedd y gyfres o wersi cynganeddu a gefais gan T. Llew Jones. Dad oedd yr un a ddywedodd y byddai hyn yn syniad da, a phan oedd Dad yn dweud bod rhywbeth yn syniad da, doedd dim dewis ond ei wneud! Er i mi ddysgu’r grefft yn weddol fach, byddai’n gelwydd i mi ddweud fy mod wedi cwympo mewn cariad â’r gynghanedd ar y pryd. Ond pan ges i anaf wrth chwarae rygbi i’r coleg ym 1990, defnyddiais fy amser rhydd i ailgydio yn y grefft, er difyrrwch yn bennaf. Ceisiais am y gadair yn yr Eisteddfod Ryng-gol – a’i hennill. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, yn sgil anaf gwaeth ar y cae rygbi, dyma gael amser i ymroi mwy at ysgrifennu. Penllanw hyn oedd ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd ym 1992. Rhoddodd hwn yr hyder i mi barhau, wrth i mi sylweddoli bod modd ysgrifennu rhywbeth oedd o bwys i mi ac o ddiddordeb i bobl eraill. Ydy eich cariad at rygbi’n dal i barhau? Bydden i erioed wedi ystyried fy mod i’n carurygbi, a dweud y gwir, er bod gen i hoffter mawr o’r gêm. Bu’n rhaid i mi roi’r gorau i chwarae oherwydd anaf pan oeddwn yn 22 oed, ond y gwir yw bod rygbi wedi mynd yn beth llai pwysig i mi pan oeddwn yn y coleg, beth bynnag. Er hyn, mae’r diddordeb mewn rygbi yn parhau wrth i mi weld fy mab, Ifan, yn dechrau chwarae’r gêm. Beth yw un o’ch prif atgofion o fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth? Un o’r pethau dwi’n eu trysori fwyaf o fod mewn prifysgol yw dod i adnabod pobl o gefndiroedd gwahanol a dod i ddeall bod mwy nag un ffordd o edrych ar y byd. Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i berson ifanc sydd am ddechrau barddoni? Darllenwch bopeth y gallwch chi, ac nid barddoniaeth yn unig. Ewch hefyd i wrando ar bobl yn trin geiriau’n gyhoeddus, boed yn feirdd, yn gomedïwyr, yn actorion neu’n wleidyddion, hyd yn oed. Mae gan y bobl hyn ymwybyddiaeth nid yn unig o’r hyn y maen’ nhw’n ei drafod, ond hefyd o’r gynulleidfa sy’n gwrando arnyn nhw’n trafod. Mae’n wir fod pawb yn dweud ‘rhaid i ti ffeindio dy lais dy hun’ fel bardd, ond rwy’n credu taw drwy ddynwared lleisiau eraill (sef y beirdd rydych chi’n eu hoffi neu yn eu hedmygu) i ddechrau y dewch chi i ddarganfod eich ffordd chi o wneud. Sut mae eich swydd bresennol yn cymharu âbod yn athro mewn ysgol uwchradd? Roedd y cam i’r byd golygu’n gam mawr o’r ystafell ddosbarth. Er hyn, roedd yn gyfle i mi roi rhai o’r sgiliau oedd gen i eisoes ar waith, yn ogystal â dysgu sgiliau newydd. Mae’n swydd ran amser erbyn hyn, ac mae hynny’n fy ngalluogi i roi mwy o sylw i farddoniaeth. Buasai hyn yn amhosib petaswn i’n dal i fod yn athro: mae honno’n swydd sy’n dy feddiannu di’n llwyr. Mi wnes i’r swydd am ddeuddeg mlynedd a’i mwynhau’n fawr ond allen i byth fod wedi parhau gyda’r un egni ac ymroddiad gan fod pethau eraill roeddwn eisiau eu gwneud. Ydych chi’n gweld eich rôl fel Meuryn Talwrn y Beirdd yn heriol ar adegau? Yr hyn sy’n heriol am y swydd yw cadw’r cydbwysedd rhwng gofal am y beirdd a’u cerddi a gofal am y gynulleidfa. Er hyn, mae hyn hefyd yn rhan o’r mwynhad ac mae’n fraint aruthrol i fedru olynu Gerallt Lloyd Owen fel Meuryn. Enilloch chi’r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014. Ble cawsoch yr ysbrydoliaeth i ysgrifennu’r awdl fuddugol? Mae oes o ysbrydoliaeth yn awdl Llanelli. Oes o fyw i bob pwrpas yn yr un filltir sgwâr, ac oes o wybod y cymhlethdod diwylliannol a ieithyddol sydd yn y filltir sgwâr honno. Ces i’r ysbrydoliaeth ar garreg fy nrws, o’r bobl a’r llefydd dwi wedi ymwneud ânhw gyhyd. Dyna pam fod cymaint o bethau anfarddonol yn yr awdl, fel siop chips, ymladd meddw a phethau digon amheus! Yn naturiol wedyn, mae’n cynnwys fy mhrofiad i o fyw mewn tref Gymreig a Chymraeg sy’n teimlo’n uffernol o Seisnig ar adegau. Beth yw eich barn ynglŷn â’r anghytuno a fu rhwng y beirniaid am yr awdl? Dwi’n gweld anghytundeb rhwng beirniaid am ddarn celfyddydol yn beth da. Yn yr achos penodol yma, rwy’n falch bod dau o’r tri beirniad wedi deall i’r dim yr hyn roeddwn yn ceisio ei gyfleu, a’r dulliau yr oeddwn wedi eu dewis i gyfleu hynny. Nid awdl draddodiadol, glasurol yw hi, ond awdl fwy mentrus er ei bod yn trafod pwnc cyfarwydd i lenyddiaeth ddiweddar Cymru. Beth yw’r cyngor gorau a gawsoch chi erioed? Ar wahân i ‘Cofia yrru ar yr ochr chwith’, yr un sy’n aros gen i yw’r hen gyngor sef i fod yn driw i fi fy hun. Des i ar draws y cyngor am y tro cyntaf wrth astudio Hamlet ar gyfer Lefel A yn yr ysgol – ‘To thine own self be true’, ac am wn i nad yw hynny wedi aros gyda fi. |