Sgwrs â'r cyflwynydd teledu a radio Heledd Cynwal
|
Mi fydd y rhan fwyaf o bobl yn adnabod Heledd Cynwal fel cyflwynwraig o fri ar S4C drwy gyflwyno rhaglenni megis Eisteddfod yr Urdd, Côr Cymru, a Cynefin yn ogystal â’i chlywed ar BBC Radio Cymru. Ganwyd Heledd Cynwal yng Nghaerdydd a bu’n byw mewn sawl gwahanol ran o’r ddinas nes ei bod yn 9 mlwydd oed. Roedd hi’n dipyn o sioc iddi pan symudodd yn ôl i Fethlehem y tu allan i Landeilo o’r ddinas fawr. Cafodd ei haddysg uwchradd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin cyn symud ymlaen i’r Brifysgol yn Aberystwyth i astudio Cymraeg a Drama. Bellach mae hi ’nôl yn byw yn ardal Llandeilo gyda thri o blant.
Sut gwnaethoch chi ddechrau eich gyrfa fel cyflwynwraig? Ar y pryd ro’n i’n 21 oed ac yn gweithio fel ymchwilydd i’r rhaglen gwis ‘Bacha hi o ’ma’ ac o’dd y cwmni teledu yn chwilio am gyflwynydd i’r rhaglen ‘Uned 5’, felly dyma nhw’n cynnig prawf sgrin i fi. O’n i’n nerfus ofnadwy, ond yn ddigon lwcus i gael y swydd! Beth yw elfen orau eich swydd? Mae ’na gyment o elfennau o’r swydd ’dwi’n eu mwynhau, o ran y bobl hynod ddifyr ’wi’n cwrdd â nhw, y llefydd ’wi’n cael ymweld â nhw. Ac mae ’na rywbeth arbennig am deledu a radio byw sy’n eich gorfodi chi i fod yn gyfan gwbl yn y foment, i fod o dan reolaeth ac mae ’na rywbeth apelgar iawn am deimlo y gall unrhyw beth ddigwydd! Pa raglen ar S4C rydych wedi mwynhau gweithio arni fwyaf? Mae pob rhaglen ’wi wedi gweithio arni wedi cynnig profiad ry’ chi’n gallu dysgu oddi wrtho. Roedd ‘Uned 5’ yn sicr yn fan cychwyn ardderchog, rhaglen fyw ddwywaith yr wythnos, na’th roi’r profiad i fynd mla’n wedyn i fod yn rhan o dîm ‘Heno’. Mae’r Eisteddfodau yn grêt gan eich bod yn rhan o dîm sy’ ynghanol yr Ŵyl, ac mi roedd Eisteddfod T yn brofiad fydd yn sefyll gyda fi am byth o achos ei bod mor gynhwysol ac arloesol. Mae ‘Cynefin’ wedi bod yn rhodd o gyfres yn sicr ac yn apelio ata’i ar gyment o lefelau. ’Wi’n cael dod i nabod Cymru cyment yn ddyfnach a hynny trwy lyged pobl sy’n nabod eu hardal mor dda, ac mae’r bobl ’wi’n cwrdd â nhw yn arbennig yng NGWIR ystyr y gair, pobl sy’n cyfrannu ac yn credu yn eu hardaloedd a’u cynefin, a ’wi’n sicr yn berson cyfoethocach o fod wedi bod yn eu cwmni. ’Wi’n ferch lwcus iawn. Beth yw eich hoff atgof o’ch gyrfa gyfan? Mae’n amhosib dewis hoff atgof yn benodol. Ond mae rhaid cyfaddef bod un wedi gadael cryn argraff arna’ i sef pan ’nes i ymweld â gwersyll carcharorion Eidalaidd yn Henllan y tu fas i Gastellnewydd Emlyn, a chael gweld Eglwys gafodd ei chreu yn gyfan gwbl gan un o’r carcharorion hynny. Roedd popeth o’r allor, yr addurno, i’r celfi wedi dod o’i ddwylo ef, ac mae’n sefyll hyd heddi. Pwy sydd wedi dylanwadu arnoch yn eich bywyd? ’Wi’n credu’ch bod chi’n gallu cael eich dylanwadu gan nifer fawr o bobl yn eich bywyd, gan fod pawb â’i brofiad. Wrth reswm, mae’r teulu a ffrindie’ yn ddylanwadol iawn mewn gwahanol ffyrdd, ond bydda’ i wastad yn cofio ambell berson na’th ddangos ffydd ynof i yn ifancach pan nad o’n i y mwya’ disgybledig! Diolch i nifer o athrawon Bro Myrddin am eich amynedd, ac mi ro’n i’n lwcus iawn o weledigaeth sawl darlithydd yn yr adrannau Cymraeg a Drama yn Aber. A oedd gweld eich mam, Elinor Jones, yn cyflwyno wedi rhoi ysbrydoliaeth ichi ddilyn yr un yrfa? Do’n i ddim yn meddwl am y peth a bod yn gwbl onest, ar y pryd. Dyna beth oedd ei swydd a dyna ni. A whare teg, na’th hi byth fy ngwthio i’r un cyfeiriad, ond mae rhaid bod ’na elfen o’i gweld yn hapus iawn yn ei gwaith wedi treiddio drwodd i’r isymwybod. Beth ydy eich diddordebau a’r hyn rydych yn hoff o’i wneud yn eich amser rhydd? Cerddoriaeth, cadw’n heini (rhedeg, dawnsio a yoga), ffilmiau, darllen a choginio. Pa mor bwysig yw Cymreictod ichi? ’Wi’n angerddol dros Gymru: yn ddiwylliannol, yn ddiwydiannol, yn ddaearyddol ac yn ieithyddol! Beth yw eich hoff atgof o’r cyfnod pan oeddech chi’n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth? Cyment ohonyn nhw. Wythnos y glas yn wych, yn cynnwys crôl twtws, crôl deircoes, crôl ffiaidd … unrhyw grôl! Trip rygbi i Ddulyn yn grêt, a phob un Eisteddfod Ryng-gol! Ble ydych yn eich gweld eich hun ymhen ychydig flynyddoedd? A oes unrhyw freuddwydion eraill yr hoffech eu gwireddu y tu allan i’r byd cyflwyno? Wwww, ’dwi’n hapus ac yn teimlo ’mod i yn lwcus iawn yn gwneud beth ’wi’n ei ’neud ar hyn o bryd. Parhau i ddysgu a gweithio’n galed. Yn bersonol, byswn i’n lico darganfod mwy o’r wlad ar droed, a’i mynyddoedd, a fel rhywun sy’ ddim yn wych gydag uchder, mae’n bwysig gwthio ymhellach! Beth yw’r cyngor gorau y gallwch ei roi i unigolyn sy’n gobeithio dilyn llwybr gyrfa ym myd y cyfryngau? O ran cyngor, beth weden i yw i gysylltu â chyment o gwmnïau a sefydliade’ ag sy’n bosib a dangos eich bo chi’n barod i weithio’n galed, i wrando ac i ddysgu. ’Wi’n sicr yn dal i ddysgu, ac mae bod yn agored i weledigaeth a syniadau rhywun arall yn bwysig ac yn gallu arwain at bethe’ arbennig iawn. Mae gweithio fel tîm yn hynod bwysig, a dangoswch eich bo chi’n barod i fynd gam ymhellach i sicrhau safon. |