CROESO I GYLCHGRAWN AR LEIN Y DDRAIG
Geiriau a llên ger y lli
Cylchgrawn yw hwn a gynlluniwyd, a grewyd ac a olygwyd gan fyfyrwyr Cymraeg Proffesiynol y flwyddyn gyntaf yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth. Crwydra, clicia, darllena a mwynha! |
Awel gyfarwydd gysurus
yn dy oeri i fyny Pen-glais,
yn gwrando ar gerddoriaeth
hyll a hardd,
yn fud i'r byd o'th amgylch.
yn dy oeri i fyny Pen-glais,
yn gwrando ar gerddoriaeth
hyll a hardd,
yn fud i'r byd o'th amgylch.
Dechre'r Diwedd | Gwenno Day
Nawr fy mod i’n defnyddio’r Gymraeg ym mhob elfen o fy mywyd, dw i’n meddwl fy mod i’n weddol rugl. Mae gen i lawer mwy o hyder i siarad a dydw i ddim yn cyflwyno fy hunan fel dysgwr neu yn dweud fy mod i wedi dysgu’r iaith fel oedolyn wrth gwrdd â rhywun am y tro cyntaf. Dw i’n gwybod fy mod i’n gallu cyfathrebu a mynegi fy hunan yn y Gymraeg, ac felly er fy mod i’n gwneud camgymeriadau o hyd, dydw i ddim yn meindio cymaint!